Bydd y cynlluniau gwers yma yn helpu eich disgyblion i ddysgu mwy am hawliau plant.
Cafon nhw eu creu yn sbesiffig ar gyfer disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol, ond gallwch chi eu defnyddio mewn cyd-destunnau gwahanol.
Gwers 1: Cyflwyniad i hawliau plant
Bydd y wers hon yn ffocysu ar gyflwyno hawliau plant, a Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.
Bydd disgyblion yn gweithio gyda’i gilydd i greu ac arwyddo siarter dosbarth.
Ar gyfer y wers hon, byddwch chi angen:
- Pecyn lluniau
- Poster hawliau plant neu pecyn symbolau
- Llun o Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
- Rhestr o wrthrychau
- Templed siarter dosbarth
Gwers 2: Tyfu i fyny (datblygiad)
Mae’r wers hon yn ffocysu ar y pethau sydd angen ar blant i dyfu’n hapus a iach.
Ar gyfer y wers hon, byddwch chi angen:
- Opsiynol – Stori ‘Tyfu i fyny’ (cysylltwch â ni i dderbyn copi)
- Pecyn lluniau – Adran Datblygiad
- Pecyn Symbolau
- Rhestr o wrthrychau perthnasol
- Fy llyfryn hawliau (i bob disgybl)
Gwers 3: Fy emosiynau (Datblygiad)
Yn y wers hon, bydd disgyblion yn meddwl am beth sy’n eu gwneud nhw’n hapus.
Ar gyfer y wers hon, byddwch chi angen:
- Opsiynol – Stori ‘Tyfu i fyny’ (cysylltwch â ni i dderbyn copi)
- Pecyn lluniau – Adran Datblygiad
- Pecyn Symbolau
- Rhestr o wrthrychau perthnasol
- Cardiau teimladau (defnyddiwch y cardiau sydd ar gael yn y dosbarth)
- Fy llyfryn hawliau
Gwers 4: Cadw’n ddiogel (Amddiffyniad)
Yn y wers hon bydd disgyblion yn trafod pwysigrwydd cadw’n ddiogel. Bydden nhw wedyn yn nodi person neu lle sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n ddiogel.
Ar gyfer y wers, byddwch chi angen:
- Opsiynol – Stori ‘Cadw’n ddiogel’ (cysylltwch â ni i dderbyn copi)
- Pecyn lluniau – Adran amddiffyniad
- Pecyn symbolau
- Rhestr o wrthrychau perthnasol
- Fy llyfryn hawliau
Gwers 5: Pobl sy’n gallu ein helpu (Amddiffyniad)
Bydd y wers hon yn ffocysu ar bobl sy’n helpu disgyblion yn yr ysgol a’u cymuned leol.
Ar gyfer y wers hon, byddwch chi angen:
- Opsiynol – Stori ‘Pobl sy’n ein helpu ni’ (cysylltwch â ni i dderbyn copi)
- Pecyn lluniau – Adran Amddiffyniad
- Pecyn symbolau
- Rhestr o wrthrychau perthnasol
- Dillad gwisgo fyny
- Lluniau o bobl yn eich cymuned sy’n helpu disgyblion
- Fy llyfryn hawliau
Gwers 6: Dweud eich dweud (cyfranogiad)
Yn y wers hon, bydd disgyblion yn dweud eu dweud trwy rannu eu profiadau ney trwy rhannu materion sy’n eu heffeithio nhw yn yr ysgol.
Ar gyfer y wers hon, byddwch chi angen:
- Opsiynol – Stori ‘Cyfranogiad’ (cysylltwch â ni i dderbyn copi)
- Pecyn lluniau – Adran Cyfranogiad
- Cadair
- Rhestr o wrthrychau perthnasol
- Pecyn symbolau
- Fy llyfryn hawliau
Gwers 7: Cymryd rhan sy’n cyfri (Cyfranogiad)
Gallwch ailadrodd y wers hon tan bod pawb wedi cael cyfle i rannu eu hoff weithgaredd.
Mae’r wers yn annog disgyblion i gymryd rhan, i drio rhywbeth newydd, ac yn dathlu eu cyflawniadau.
Ar gyfer y wers hon, byddwch chi angen:
- Opsiynol – Stori ‘Cyfranogiad’ (cysylltwch â ni i dderbyn copi)
- Pecyn lluniau – Adran cyfranogiad
Bydd adnoddau ychwanegol yn dibynnu ar ddewisiadau’r plant.
Gwers 8: Helfa drysor (goroesi)
Mae hon yn wers hwyl i helpu disgyblion archwilio eu hawliau. Trwy weithio fel tîm, bydd eich disgyblion yn trio ffeindio eu hawliau fel rhan o helfa drysor o gwmpas yr ysgol.
Ar gyfer y wers hon, byddwch chi angen:
- Opsiynol – Stori ‘Goroesiad’ (cysylltwch â ni i dderbyn copi)
- Pecyn lluniau – Adran goroesiad
- Pecyn symbolau
- Rhestr o wrthrychau perthnasol
- Fy llyfryn hawliau
Gwers 9: adeiladwch guddfan (goroesi)
Mae’r wers hon yn cyfle i ddisgyblion i ail-ymweld a’u dysgu dros yr wyth sesiwn diwethaf. Bydd disgyblion yn gweithio gyda’u gilydd i greu cuddfan.
Ar gyfer y wers, byddwch chi angen:
- Opsiynol – Stori ‘goroesiad’ (cysylltwch â ni i dderbyn copi)
- Pecyn lluniau – Adran goroesi
- Pecyn symbolau
- Rhestr o wrthrychau perthnasol
- Defnyddiau ar gyfer creu cuddfan tu fas
- Snac iachus
- Fy llyfryn hawliau
Gwers 10: trafodaeth
Mae’r wers hon yn gyfle i ddisgyblion i rannu yr hyn maen nhw wedi eu dysgu, i ddathlu eu gwaith, ac i gwblhau eu llyfrynnau hawliau.
Ar gyfer y wers hon, byddwch chi angen:
- Llun o Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
- Opsiynol – Y pecyn straeon (cysylltwch â ni i dderbyn copi)
- Pecyn lluniau
- Pecyn symbolau
- Rhestr o wrthrychau perthnasol
- Fy llyfryn hawliau