Diolch am wneud ein holiadur!
Byddwn ni’n edrych ar yr atebion ac yn eu defnyddio nhw i gynllunio ein gwaith.
Cyfle i ymuno â’n panel ieuenctid
Beth am wneud cais i ymuno gyda’n panel ymgynghorol ifanc?
Criw o bobl ifanc yw’r panel sy’n helpu’r Comisiynydd Plant gyda’i gwaith. Maen nhw’n griw cyfeillgar sy’n byw ar draws Cymru.
Rydyn ni angen hyd at 12 o bobl ifanc sy’n:
- 11-17 oed
- Sydd â pheth profiad blaenorol o gynrychioli barn pobl eraill
- Sy’n hyderus i rannu eu syniadau a’u barn gydag eraill (dydy hyn ddim o reidrwydd yn meddwl sefyll a siarad o flaen eraill, mae e jyst yn meddwl bod ti’n hapus i rannu dy farn. Mae sawl ffordd i wneud hyn – yn cynnwys siarad o flaen eraill, rhannu syniadau mewn grwpiau bach, ysgrifennu syniadau, defnyddio platfformau digidol, neu ateb holiaduron