Dull Dim Drws Anghywir i Niwroamrywiaeth

Mae ein hadroddiad, a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2023, yn amlinellu’r heriau mae plant a theuluoedd yn eu hwynebu pan maen nhw’n edrych am gefnogaeth gyda chyflyrau niwroddatblygiadol.

Darllenwch yr adroddiad llawn (PDF)

Darllenwch fersiwn hawdd i’w ddarllen gyda symbolau

Prif negeseuon

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau dull gweithredu sy’n dilyn anghenion yn hytrach na diagnosis yn achos plant niwroamrywiol. Rhaid i bob plentyn gael eu hanghenion wedi’u diwallu, boed bod ganddyn nhw ddiagnosis ffurfiol neu beidio.
  • Mae teuluoedd yn aml yn clywed bod nhw wedi dod i’r lle anghywir wrth chwilio am gefnogaeth, neu fod dim cefnogaeth ar gael. Dywedodd teuluoedd wrthyn ni fod gorfod aros ym mhob pwynt mynediad yn golygu bod eu plant yn tyfu’n hŷn heb dderbyn y gefnogaeth briodol. Mae angen dull dim drws anghywir i gefnogaeth i blant niwroamrywiol yng Nghymru.
  • Mae teuluoedd eisiau i wasanaethau i gydweithio i sicrhau bod gan blentyn yr asesiad a chefnogaeth maen nhw angen

Safbwyntiau rhieni a gweithwyr proffesiynol

Ymwelon ni â ASD Rainbows, elusen sy’n cefnogi plant ifanc gydag awtistiaeth, a’u teuluoedd.

Siaradon nhw am eu profiadau, a beth sydd angen newid:

Safbwynt seicolegydd clinigol

Mae Dr Mair Edwards, seicolegydd clinigol, yn trafod yr heriau sy’n wynebu teuluoedd: