Yn 2019 cyhoeddon ni gynllun tair gwaith tair blynedd, yn nodi’r gwelliannau roedden ni eisiau anelu atyn nhw ar gyfer plant Cymru.
Rydyn ni nawr wedi cyhoeddi gwerthusiad o’r cynllun hynny.
Darllenwch Werthusiad Ein Cynllun ar gyfer pob Plentyn a Pherson Ifanc 2019-22 (PDF_
Darllenwch fersiwn Hawdd i’w Ddeall (PDF)
Yn 2019 ffocyson ni ar 5 prif ddyhead ar gyfer plant a phobl ifanc, i ein helpu i osod ein gwaith.
Roedden ni eisiau gweld:
- gwasanaethau yn cydweithio i roi plant a phobl ifanc y gefnogaeth iechyd meddwl maen nhw eu hangen, heb iddyn nhw orfod aros yn hir am help
- sefydliadau cyhoeddus o bob sector yn blaenoriaethu hawliau plant pan maen nhw’n dylunio a darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc
- pob plentyn yn dysgu am eu hawliau yn yr ysgol, a phlant yn profi eu hawliau ym mhob sefydliad addysg, yn cynnwys adre
- y llywodraeth yn cymryd camau clir i leihau tlodi plant, ac effaith tlodi plant
- amddiffyniad cyfartal i blant rhag cosb gorfforol
Cafodd y dyheadau eu ffurfio trwy:
- Safbwyntiau miloedd o blant a phobl ifanc, trwy ein cynlluniau Llysgenhadon, ac ein holiadur cenedlaethol
- adolygiad o dystiolaeth (PDF) a oedd yn bodoli yn barod ar blant a phobl ifanc
- cyfarfodydd gyda sawl gwasanaeth a sefydliad sy’n cefnogi plant
Gwelliannau
Mae gwelliannau wedi bod, yn cynnwys hawliau newydd, a newidiadau i bolisi ac ariannu.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- dileu Amddiffyniad Cosb Resymol, fel bod gan blant amddiffyniad cyfartal ag oedolion rhag niwed corfforol o dan y gyfraith
- newidiadau i gwricwlwm Cymru sy’n golygu y bydd pob plentyn yn dysgu am eu hawliau, ac y bydd pob aelod o staff yn cael eu hyfforddi i gefnogi eu hawliau
- sicrhau eithriad Treth y Cyngor i ymadawyr gofal
- gyllid ar gyfer llety ‘diogel’ i blant sydd ag anghenion iechyd meddwl a gofal cymdeithasol cymhleth
- Mae sicrhau ‘Dim Drws Anghywir’ ar gyfer cefnogaeth yn awr yn nod ar gyfer gwasanaethau plant i blant ag anghenion cymhleth ledled Cymru, er bod rhaid dweud bod tipyn o ffordd i fynd eto cyn bod pob plentyn yn profi hynny.
- Rydyn ni a’n partneriaid hefyd wedi cyflawni newidiadau pwysig o ran hawliau dinesig i bobl ifanc, gyda datblygiad Senedd Ieuenctid Cymru a gostwng oed pleidleisio i 16. Yn 2021, cafodd pobl ifanc 16 ac 17 oed ar draws Cymru gyfle i bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd am y tro cyntaf erioed
Effaith
Yn diolch i’r Comisiynydd ymadawol, Yr Athro Sally Holland, tanlinellodd Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, ymateb y swyddfa i’r pandemig:
A roedd diolch gan y Weinidog Jane Hutt:
Prosiect hawliau plant yn y byd digidol – wedi ei arwain gan ddisgyblion
Dyma Elena, aelod o’n Panel Ifanc, yn siarad am fod yn rhan o un o’n prosiectau dros y tair blynedd diwethaf. Yn 2019, gweithion ni gyda disgyblion yn Ysgol Gyfun Gwyr yn Abertawe i greu eu prosiect nhw eu hunain ar hawliau plant yn y byd digidol. Ar ôl cwblhau’r gwaith cafodd dau o’r criw y cyfle i gyflwyno’r gwaith i gyd-ddisgyblion ar draws Ewrop.