Ysgolion Llysgenhadon, ymunwch a ni yn ein digwyddiadau Llysgenhadon ar-lein.
Gewch chi’r cyfle i:
- gwrdd â Rocio, Comisiynydd Plant Cymru
- ddysgu am rai gweithgareddau hawliau cyffrous y gallech ddefnyddio yn eich ysgol
- gael cipolwg ar ein Mater y Mis ar gyfer mis Hydref a Materion y Mis sydd i ddod
Mi fyddwn yn rhedeg 3 sesiwn ar-lein – 2 Saesneg ac 1 Cymraeg ar fore Dydd Mawrth y 1af o Hydref i Ysgolion Cynradd.
- Sesiwn 1 (Saesneg): 9:30yb-10yb
- Sesiwn 2 (Cymraeg): 10:15yb-10:45yb
- Sesiwn 3 (Saesneg): 11yb-11:30yb
Os hoffech chi gofrestru ar gyfer un o’r sesiynau, cliciwch isod ar y bocs melyn.
Cofrestrwch ar gyfer ein Digwyddiadau Llysgenhadon
*PWYSIG – cofrestrwch ar gyfer UN sesiwn yn unig.*
Fel y gwyddoch mae ychydig o newidiadau wedi bod i’n cynllun dros y flwyddyn ddiwethaf a byddwn yn gwneud yn siŵr i fynd dros y rhain gyda chi ar y diwrnod, fodd bynnag rydym mor gyffrous i gwrdd â chi gyd ac i siarad am bopeth sy’n ymwneud â hawliau plant!