Dyma’n amserlen ar gyfer ein cynllun Llysgenhadon Uwchradd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018/19.
Gallwch gofrestru i’r cynllun am ddim.
Pecyn croeso
Byddwch chi’n derbyn pecyn o adnoddau a chanllawiau ym mis Medi, neu pryd bynnag rydych chi’n ymuno gyda’r cynllun.
Etholiadau
Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n dewis o leiaf 2 Lysgennad ar ddechrau’r flwyddyn ysgol. Gallwch chi ddewis mwy na dau os byddwch chi’n dymuno.
Cynadleddau Myfyrwyr
Byddwn ni’n cynnal dwy gynhadledd myfyrwyr i’n Llysgenhadon Uwchradd. Bydd cofrestru yn agor yn ystod gaeaf 2019. Bydd pob digwyddiad yn para am ddiwrnod ysgol. Dyma’r dyddiadau:
- 21 Ionawr 2019 yn ne Cymru
- 28 Ionawr 2019 yng ngogledd Cymru
Tasgau Hawliau
Dyma’r tasgau y bydd Sally yn eu gosod ar gyfer ei Llysgenhadon yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Bydd gwybodaeth ar bob dasg unigol ar ein tudalen Tasgau Hawliau pan mae’r dasg yn dechrau.
Tymor yr Hydref – Beth Nawr? What Now?
Holiaduron i helpu’r Comisiynydd i osod ei gwaith am y tair mlynedd nesaf. Byddwn ni’n gofyn i blant, pobl ifanc ac oedolion beth sy’n bwysig iddyn nhw fel bod ni’n gallu defnyddio eu hadborth i siapio ein gwaith.
Pa hawliau sy’n cael eu cefnogi?
Erthygl 12.
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
Pob plentyn ac oedolyn yn eich ysgol.
Tymor y Gwanwyn – Cynllun Llesiant y byd digidol, yn gysylltiedig â Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel ym mis Chwefror 2019.
Bydd pobl ifanc yn eich ysgol yn archwilio sut maen nhw’n profi ac yn diogelu eu hawliau ar-lein.
Pa hawliau sy’n cael eu cefnogi?
Erthyglau 12,13,15,16,19 a 34.
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
Pob plentyn yng Nghyfnod Allweddol 3 & 4.
Yr holl athrawon, staff cymorth addysgu a rhieni.
Tymor yr Haf – Holiadur Hawliau
Mae pob ysgol yn derbyn adroddiad unigryw sy’n edrych ar sut mae plant yn profi eu hawliau yn eich ysgol chi.
Pa hawliau sy’n cael eu cefnogi?
Erthyglau 2, 12, 29 a 42.
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
Pob plentyn yng Nghyfnod Allweddol 3 & 4.
Yr holl athrawon a staff cymorth addysgu.