Dyma fi’n ymddiheuro ymlaen llaw am ysgrifennu blog trist ar ddiwedd y flwyddyn, ond rydw i wedi gweld llawer o dristwch a niwed eleni, a dydw i ddim eisiau gweld hynny eto yn 2018.
10 peth rydw i wedi’u dysgu eleni:
- Mae bwlio’n cael effaith aruthrol ar blant a phobl ifanc, a does dim digon ohonyn nhw’n hyderus y bydd bwlio’n cael sylw priodol yn yr ysgol na bod eu rhieni’n gwybod beth i’w wneud os byddan nhw’n siarad am y peth garter.
- Mae yna rai cynlluniau gwych i atal a thaclo bwlio eisoes ar waith mewn ysgolion ledled Cymru, ond byddwn i’n hoffi i’r rhain fod ar gael i bob plentyn ym mhob ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys Dulliau Gweithredu Adferol a rhaglen KIVA o’r Ffindir.
- Gall plant o oed ifanc iawn arwain ymyriadau i daclo bwlio gyda hyfforddiant a chefnogaeth, gan ofyn cwestiynau call fel ‘beth ddigwyddodd?’, ‘sut effeithiodd hynny arnat ti?’, ‘beth ddylai ddigwydd nesa?’
- Mae oedolion mewn llawer o weithleoedd heb ddysgu sut mae gweithredu fel hyn, efallai oherwydd eu bod heb ddysgu hynny’n ifanc.
- Gall cyhuddiadau ynghylch bwlio a chamddefnyddio pŵer ddigwydd ar bob lefel, gan gynnwys Cabinet Llywodraeth Cymru, y Senedd a Hollywood.
- Er bod pobl yn fy holi’n gyson ynghylch problem bwlio ar-lein gan blant a phobl ifanc, mae’n ymddangos bod y math yma o ymddygiad yn normal gan rai oedolion yn gyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Dyw e ddim wedi’i gyfyngu i lwyfannau ar-lein chwaith. Gall penawdau papur newydd gael eu defnyddio i fwlio barnwyr ac ASau sydd wedi gwneud eu gwaith yn ddidwyll.
- Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydw i wedi gweld rhywun amlwg yng Nghymru, sy’n grac ynghylch bwlio honedig yn Llywodraeth Cymru, yn defnyddio Twitter i ddisgrifio cyfarwyddwr elusen flaenllaw yng Nghymru fel ‘self-righteous sycophant’ a ‘subsidy junky’.
- Mae’n fy ngwneud i’n drist bod y rhai sydd â chwestiynau dilys i’w gofyn am fwlio sefydliadol yn defnyddio iaith ormesol eu hunain.
- Mae gan oedolion ym mhob maes lawer i’w ddysgu gan blant cynradd ynghylch pŵer dulliau gweithredu adferol.
Gadewch i ni sicrhau bod 2018 ddim yn flwyddyn arall i’r bwli. Mae angen i oedolion, yn ogystal â phlant, ddysgu adnabod bwlio, tynnu sylw ato a’i herio. Rhaid rhoi’r gorau i weld bywydau ar-lein fel cyfle i ddweud beth sydd yn eu meddwl heb gyfyngiadau o unrhyw fath, a mynd ati yn lle hynny i gyfarch eraill â’r un parch ag mewn cyfarfod wyneb yn wyneb – yn union fel bydden nhw am i eraill eu cyfarch nhw a’r bobl sy’n bwysig iddyn nhw.
Pan fydd plant bach yn cwmpo mas, byddwn ni’n dweud wrthyn nhw am ‘chwarae’n neis’. Dylen ninnau geisio ‘chwarae’n neis’ yn 2018, beth bynnag yw ein hoed.