Yn ystod y mis diwethaf bu dau adroddiad diddorol ar achosion gofal, sef yr achosion mewn llysoedd teulu sy’n llunio gorchmynion cyfreithiol ynghylch plant sy’n cael eu gosod mewn lleoliadau gofal.
Y cyntaf oedd yr adroddiad gan dîm ymchwil dan arweiniad yr Athro Karen Broadhurst o Brifysgol Lancaster ar ailadrodd achosion gofal. Trwy ddefnyddio data oedd ym meddiant y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS), fe lwyddon nhw i ddarparu tystiolaeth ynghylch ailadrodd achosion gofal, lle mae babanod neu blant o deuluoedd sydd wedi colli eu plant yn flaenorol yn cael eu gosod mewn gofal. Mae hon yn broses drist, y mae gweithwyr cymdeithasol, cyfreithwyr a barnwyr yn hen gyfarwydd â hi, ond nad ydym wedi derbyn llawer o dystiolaeth ymchwil yn ei chylch. Yn y canfyddiadau diweddaraf o’r astudiaeth barhaus hon, fe ddangoswyd bod niferoedd y babanod newydd-eni sy’n cael eu gwahanu oddi wrth eu mamau wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y 7 mlynedd diwethaf.
Mae hon yn drychineb lwyr i’r plant a’r rhieni fel ei gilydd. Mae’n anodd dychmygu poen colli sawl plentyn adeg eu geni neu yn ystod eu babandod, un ar ôl y llall. Bydd rhai o’r plant yn cael bywyd hapus gyda mabwysiadwyr neu ofalwyr tymor hir o’u teulu ehangach, ond bydd llawer yn cael eu gwahanu oddi wrth frodyr a chwiorydd oherwydd maint y teulu a natur ddilyniannol eu symud. Mae rhai rhieni’n derbyn cymorth arbenigol ar ôl colli plentyn, er mwyn iddyn nhw fedru fynd i’r afael â pha broblemau bynnag sydd wedi arwain at fynd â’r baban oddi arnyn nhw cyn iddyn nhw gael rhagor o blant. Mae hyn i’w groesawu’n fawr, ac rwy’n credu y dylai gael ei gynnig i rieni fel mater o drefn.
Mae’r adroddiad hwn yn sôn am achosion gofal yn Lloegr yn unig. Rwy’n ymwybodol bod llawer o achosion tebyg yng Nghymru, ac rwy’n gobeithio bod modd cynnal dadansoddiad tebyg yma, er mwyn i ni gael gwybod faint o deuluoedd sydd angen help arbenigol, a datblygu gwasanaethau cefnogi priodol.
Mae’r ail adroddiad yn dangos bod achosion gofal yng Nghymru yn cael eu cyflawni’n llawer cyflymach, gyda phenderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud o fewn chwe mis yn y mwyafrif o achosion. Yn y gorffennol roedden nhw’n aml yn llusgo mlaen yn llawer hwy, gan adael plant a rhieni’n ansicr ynghylch eu dyfodol ac achosi oedi yn y cynlluniau parhaol i blant. Mae hefyd dystiolaeth anecdotaidd bod mwy o ddatrysiadau gofal yn cael eu trefnu yn rhwydweithiau’r teulu ehangach cyn i achosion gofal gychwyn, ac mae hynny’n newyddion da.
Mae’n ymddangos, felly, ein bod ni’n symud plant yn gynharach pan fydd pryder yn eu cylch ac yn gwneud penderfyniadau’n gynt yn y llys. Yn achos plant unigol gall y ddau dueddiad yma fod yn dda o safbwynt eu cyfleoedd yn y tymor hwy, os byddai aros gartre’n golygu eu bod mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol. Fodd bynnag, mae angen i ni fod yn sicr bod ataliaeth ac ymyrraeth gynnar ar waith i gefnogi cynifer o blant â phosib i aros gyda’u teuluoedd biolegol. Mae CCUHP yn dweud y dylai rhieni gael eu cefnogi gan y Wladwriaeth i ofalu am eu plant, ac y dylai plant gael cefnogaeth arbennig os na allan nhw fyw gartref. Mae gennym ni gyfraddau llawer uwch o blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae’n bosib mai’r rheswm am hynny yw ein bod ni’n amddiffyn plant yn well, ond ffactorau eraill a allai fod yn cyfrannu at hyn yw gwasanaethau cymorth llai effeithiol i deuluoedd, gweithwyr proffesiynol a thimau cyfreithiol sy’n llai parod i gymryd risg, a lefelau uwch o dlodi plant. Rwy’n croesawu pwyslais presennol Llywodraeth Cymru ar leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal. Rhaid i hynny ddigwydd ochr yn ochr â chefnogaeth effeithiol i blant a’u teuluoedd, p’un a ydynt yn byw gartref neu gyda gofalwyr amgen. Rhaid i ni sicrhau hefyd ein bod ni’n darparu cymorth effeithiol i’r rhieni hynny sy’n cael eu gadael ar ôl pan gaiff eu plant eu cymryd oddi arnynt, heb anghofio bod rhai ohonyn nhw’n rhieni yn eu harddegau sy’n dal yn blant eu hunain o dan y gyfraith.