Beth fyddai pobl ifanc Cymru yn gwneud tasen nhw’n Brif Weinidog newydd Cymru? Yn ystod mis Chwefror fe wnaeth dros 600 o blant ar draws Cymru ymateb i becyn trafod fy swyddfa ar gyfer ysgolion, Mater Y Mis, a dweud wrthyn ni beth roedden nhw’n meddwl. Dyma chwech o bethau bydden nhw’n eu gwneud tasen nhw wrth y llyw.
- Materion a syniadau cysylltiedig ag addysg oedd ar frig y rhestr. Ymhlith galwadau am brofiadau dysgu mwy amrywiol, ac ystod ehangach o bynciau, roedd rhai atebion yn adlewyrchu materion ehangach fel cost prydau ysgol, mynediad cyfartal i glybiau, a chost adnoddau adolygu. Bu pobl ifanc hefyd yn sôn am gefnogaeth iddyn nhw eu hunain a’u cyfoedion – ‘mwy o staff cymorth mewn ysgolion’, ‘rhoi mwy o help i blant gyda darllen a lleferydd’, a ‘mwy o helpwyr mewn ysgolion i helpu gyda’n hysgrifennu’. Yn erbyn cefndir o heriau parhaus ar ôl y pandemig, roedd y sylwadau hyn yn pwysleisio’r angen am fuddsoddiad cyson a sylweddol i adfer addysg.
- Roedd arian yn bryder aruthrol i’r rhai fu’n cymryd rhan. Fel mae ymchwil flaenorol wedi dangos, gan gynnwys arolwg cenedlaethol a gynhaliwyd gan fy swyddfa yn 2022, roedd pris bwyd, tanwydd a biliau yn cael lle amlwg ym meddyliau llawer, fel yr oedd tai rhatach a chyflogau uwch. Wrth ddarllen yr ymatebion, roeddwn i’n cael y teimlad bod llawer o bobl ifanc yn pryderu’n fawr am y caledi maen nhw’n ei weld yn anochel yn eu cymunedau, ac yn chwilio am atebion – ‘Bydda i’n rhoi arian i’r tlawd ac yn rhoi bwyd iddyn nhw’, ‘gwneud yn siŵr bod pobl yn cael taleb rhag ofn eu bod nhw mewn sefyllfa wael gydag arian ac yn methu fforddio pethau’, ‘Bwyd am ddim a dillad i bobl mewn angen’.
- Roedd trafnidiaeth yn bwnc llosg arall. ‘Bysus sy’n rhedeg ar amser’, ‘bysus a threnau fforddiadwy’, a ‘thrafnidiaeth gyhoeddus am ddim’ oedd rhai o’r atebion oedd yn adlewyrchu’r angen am system fwy dibynadwy a fforddiadwy. Mae trafnidiaeth yn rhywbeth rwy’n clywed llawer amdano gan blant a phobl ifanc ar draws Cymru, a bydda i’n parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i roi trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob person ifanc, i’w helpu i gael mynediad i’w hawliau – gan gynnwys eu hawl i gael addysg, iechyd, a threulio amser gyda’u cyfoedion.
- ‘Mwy o ysbytai’, ‘gwell gofal meddygol’, a ‘mwy o feddygfeydd’ oedd rhai o’r sylwadau niferus cysylltiedig â thriniaeth gofal iechyd. Roedd barn pobl ifanc yn adleisio adroddiad diweddar gan Goleg Brenhinol y Pediatregwyr yng Nghymru, oedd yn creu darlun digysur o gyflwr presennol gwasanaethau iechyd plant ac amserau aros annerbyniol o hir i blant. Rhaid cael cynllun penodol ar gyfer gwella iechyd plant a phobl ifanc, lleihau anghydraddoldebau iechyd plant, a rhoi sylw i’r anawsterau o ran y gweithlu.
- Roedd yr amgylchedd lleol yn destun trafod sylweddol, ac yn arbennig glendid strydoedd a chanol trefi pobl ifanc. Roedd llu o sylwadau yn galw am ‘fwy o finiau sbwriel’ yn awgrymu bod sbwriel yn broblem fawr i blant a phobl ifanc.
- Rhagor o bethau i’w gwneud am ddim. Roedd pobl ifanc eisiau mynediad at ystod eang o weithgareddau, chwaraeon a chyfleoedd i ddysgu tu allan i’r ysgol oedd ddim yn costio arian – ‘Dim digon o leoedd diogel i fynd ar hyd y flwyddyn i gwblhau ein hobïau – maen nhw’n mynd yn fwy drud, ac allwn ni ddim fforddio fe.’
Mae’r canfyddiadau hyn yn adlewyrchu llawer o’r meysydd oedd yn destun pryder yn fy arolwg cenedlaethol yn 2022/23, ‘Gobeithion i Gymru’, a glywodd gan fwy na 10,000 o blant a phobl ifanc, a helpu i lunio fy strategaeth tair blynedd ‘Gwella Bywyd i Blant yng Nghymru’. Mae’r blaenoriaethau strategol a’r meysydd fydd yn brif ffocws ar gyfer fy nghyfnod yn y swydd yn cynnwys addysg, iechyd meddwl, cydraddoldeb a thlodi. Gan ein bod yn genedl flaengar sy’n rhoi pwyslais mawr ar hawliau dynol plant, rwyf wedi annog Prif Weinidog newydd Cymru i fyfyrio ar y negeseuon hyn gan blant wrth bennu ei flaenoriaethau ei hun ar gyfer y Llywodraeth.
Mewn datganiad i gyd-fynd â phenodi’r cabinet newydd, mae Prif Weinidog Cymru wedi mynegi ei ymrwymiad i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, rhywbeth rwy’n ei groesawu’n fawr, ac yn wir ei fwriad i wneud y Blynyddoedd Cynnar yn rhan o’r portffolio iechyd meddwl Gweinidogol. Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i blant a phobl ifanc, a bydda i’n edrych ymlaen at gwrdd â Phrif Weinidog newydd Cymru i drafod y meysydd blaenoriaeth hyn yn fanylach, ynghyd â’r holl bwyntiau allweddol mae plant wedi’u rhannu gyda fi.