Pan ddaeth yn amlwg pa mor ddrastig fyddai’r mesurau i ymateb i’r pandemig, cafodd pawb ohonon ni sy’n gweithio i ddiogelu hawliau plant ein syfrdanu. Nid dim ond oherwydd yr amharu sylfaenol ar fywydau pob dydd, ond oherwydd ein bod ni’n sylweddoli ar unwaith y byddai profiadau plant o’r cyfyngiadau symud yn eithriadol o wahanol. Yn wir, mae’r cyfyngiadau symud wedi gorfodi’r cyhoedd yn gyffredinol a’n llywodraethau i gydnabod yr anghydraddoldebau oedd eisoes yn bresennol i’n plant ni.
Dyma rai pethau rydw i wedi sylwi arnyn nhw.
Anghydraddoldeb Addysg
Mae’r ffaith bod ysgolion ar gau wedi amlygu’r anghydraddoldeb sy’n wynebu plant ar hyd y flwyddyn ym myd addysg. Mae lle a llonyddwch, hyder rhieni a’u profiadau hwythau o addysg, mynediad at weithgareddau sy’n cyfoethogi fel cerddoriaeth a chwaraeon, gwersi ychwanegol am dâl, llyfrau, gliniaduron a band eang i gyd yn cael effaith aruthrol ar ddysgu gartref. Mae hynny bob amser wedi bod yn wir, ond mae mynd i’r ysgol yn helpu i wneud pethau rywfaint yn fwy cyfartal.
Mae’r rhan fwyaf o lywodraethau’r Deyrnas Unedig bellach yn gwneud rhywbeth am y bwlch digidol ac yn darparu gliniaduron, ipadiau a mynediad di-wifr i blant sydd heb y pethau hynny. Roedd rhai ysgolion eisoes wedi gwneud hynny o’u cyllidebau eu hunain. Ond doedd yr angen am gysylltiad ddim yn beth newydd. Mae gwaith cartref ac adolygu yn aml yn dibynnu ar fynediad i’r rhyngrwyd, dyfais i weithio arni ac yn aml argraffydd (gyda phapur ac inc drud) yn ogystal.
Tlodi ac eisiau bwyd
Daeth sawl peth yn glir wrth i gannoedd o filoedd o deuluoedd ychwanegol ddibynnu ar Gredyd Cynhwysol, bron dros nos. Dyw e ddim yn llawer o arian i fyw arno, ac mae’n rhaid i chi aros am eich taliad cyntaf. Hefyd mae cyfyngiad o ddau blentyn – dyw teuluoedd ddim yn derbyn taliadau ar gyfer plant ychwanegol a anwyd ar ôl 6 Ebrill 2017, heblaw am ambell eithriad. Bron ar unwaith gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig rai ychwanegiadau sydd i’w croesawu’n fawr i daliadau Credyd Cynhwysol. Roedd tlodi Credyd Cynhwysol yn sydyn wedi cael ei amlygu i lawer mwy o bobl, ond pam doedd hynny ddim yn bryder o’r blaen?
Hefyd daeth yn amlwg bod llawer o blant yn dibynnu ar yr ysgol am fwyd. Yn sydyn, doedd dim modd cael prydau ysgol am ddim, na’r brecwast am ddim sydd ar gael yn ysgolion cynradd Cymru ac yn anffurfiol mewn ysgolion ar draws y Deyrnas Unedig. Bu holl Lywodraethau’r Deyrnas Unedig wrthi ar ras yn trefnu mesurau, oedd yn cynnwys trosglwyddo arian, talebau a dosbarthu bwyd. Yng Nghymru, gwnaed penderfyniad i’w groesawu y byddai’r ddarpariaeth yma’n parhau yn ystod gwyliau’r ysgol, o leiaf tra bod yr argyfwng yn parhau. Mae cydnabod fel hyn gymaint mae plant a’u teuluoedd yn dibynnu ar y ddarpariaeth hon, ac fel arfer ar eu colled yn y gwyliau, yn gam pwysig.
Perthnasoedd, diogelwch a llesiant
Fel cymdeithas rydyn ni’n dibynnu ar ein hysgolion, ein meithrinfeydd, ein gwasanaethau ieuenctid a’n colegau AB i fod yn rhwyd ddiogelwch ar gyfer ein plant. Dim ond cyfran fechan sy’n cael eu diogelu’n ffurfiol gan y gwasanaethau cymdeithasol neu sy’n byw mewn lleoliadau gofal amgen. Mae llawer, llawer mwy yn cael cefnogaeth gan ein gwasanaethau cyffredinol, fel ysgolion. Maen nhw’n cynnig perthnasoedd diogel, y gallan nhw eu trystio, i lawer o blant, ac yn gweithredu’n gyflym os byddan nhw’n pryderu am ddiogelwch neu iechyd meddwl plentyn. Bu gostyngiad dramatig yn nifer yr atgyfeiriadau amddiffyn plant yn ystod y cyfnod yma, sy’n amlygu rôl arferol ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill yn y broses, ond mae cam-drin domestig wedi cynyddu, sy’n awgrymu faint o bwysau fydd ar rai plant, ac oedolion sy’n dioddef camdriniaeth, sy’n fenywod yn bennaf. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth gweld ysgolion, gwasanaethau ieuenctid, elusennau ac awdurdodau lleol yn addasu’n gyflym er mwyn cael hyd i ffyrdd newydd o gefnogi plant o bellter. Mae grwpiau cymorth cymunedol wedi cael eu ffurfio ar draws y wlad, yn rhoi gobaith wedi’r rhaniadau chwerw oherwydd Brexit. Does dim modd gwybod eto pa mor llwyddiannus bydd hyn wedi bod i’r rhai yn y sefyllfa fwyaf bregus.
Wrth gwrs bydd rhai plant yn elwa o’r cyfnod yma. Bydd rhai wedi treulio llawer mwy o amser o safon gyda rhieni sydd bellach yn gweithio gartre neu ar ffyrlo, a bydd eraill wedi cael seibiant o ddioddef bwlio, straen arholiadau a phryder cymdeithasol. Gallai hyn hefyd wneud i ni ystyried sut gall pwysau bywyd sy’n mynd ar garlam effeithio ar ein plant ar hyd y flwyddyn.
Allwn ni sicrhau unrhyw newidiadau sy’n para?
Er y bydd y pwrs cyhoeddus o dan bwysau aruthrol yn y cyfnod o adfer, dylai’r anghydraddoldebau sydd wedi dod yn fwy amlwg yn y cyfnod hwn ein hannog ni i gyd i fentro gwthio am newid cymdeithasol. Arweiniodd cythrwfl y ddau Ryfel Byd at ddiwygiadau mawr yn y Deyrnas Unedig, yn gymdeithasol, ac o ran addysg a lles, a gallai hon fod yn foment hanesyddol arall i fentro. Dylai rhoi sylw i newyn plant y tu allan i’r ysgol wneud i ni ystyried parhau â’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim sydd wedi dal ati trwy’r gwyliau yn ystod y cyfnod yma. Dylen ni barhau i bryderu am lefelau isel Credyd Cynhwysol a dileu’r terfyn dau blentyn, y cap ar fudd-daliadau, a’r symiau sy’n cael eu rhewi o flwyddyn i flwyddyn. Oni fyddai’n beth da pontio’r bwlch digidol fel rhywbeth normal yn addysg pob plentyn? Gadewch i ni ddal ati i ddeall bod ysgolion yn hanfodol i lesiant ein plant, yn ogystal â’u haddysg, a’u cefnogi yn y rôl honno. Yn olaf, beth am gadw cofnod o unrhyw bethau positif rydyn ni wedi’u dysgu o’r cyfnod yma, ac addo symud i mewn i’r cyfnod o adfer yn benderfynol o leihau anghydraddoldebau a chefnogi ein plant mewn ffyrdd newydd a gwell.