Wrth i mi nesáu at ddiwedd fy mis cyntaf yn y swydd, galla i oedi i fyfyrio ar fis go anghyffredin. Ar draws y Deyrnas Unedig, yr Etholiad Cyffredinol sydd wedi cael y sylw pennaf – digwyddiad sy’n cael ei gynnal dim ond bob 5 mlynedd fel arfer, felly dim ond un arall y galla i ddisgwyl ei weld yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd. Mae hynny wedi golygu bod y genedl, yn ystod fy mis cyntaf, wedi bod yn cael trafodaeth fywiog ar y math o gymdeithas rydyn ni eisiau.
Does dim pleidlais gan blant, ac efallai bod hynny’n esbonio pam mae eu bywydau’n cael sylw mor anaml mewn trafodaethau cyhoeddus adeg etholiad. Er bod y rhan fwyaf o’r pleidiau yn sôn tipyn am deuluoedd sy’n gweithio’n galed, roedd diffyg trafodaeth cyffredinol ynghylch plant, sydd â’r bywydau mwyaf cuddiedig.
Mae hynny’n cynnwys plant sy’n byw mewn tlodi, plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal, plant anabl a’r rhai sy’n ceisio lloches. Fe glywais un arweinydd yn cyfeirio at dlodi plant mewn un ddadl, ond wnaeth gweddill y panel ddim gafael yn y thema. Mae angen i gymdeithas sy’n gosod gwerth cyfartal ar bob plentyn gydnabod y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai i chwarae rhan lawn yn y gymdeithas.
Cafwyd trafodaeth ar galedi a thoriadau wrth gwrs. Byddwn i wedi hoffi gweld yr holl bleidiau’n rhoi mwy o sylw i effaith anwastad toriadau ar wahanol grwpiau. Plant sydd wedi bod ar eu colled fwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny nid yn y DU yn unig, ond ar draws Ewrop, fel mae arddangosfa fideo ar-lein newydd Rhwydwaith Ombwdsmyn Plant Ewrop, ‘Austerity Bites: Children’s Voices’ , yn dangos o berspectif pobl ifanc.
Gallwn ni weld effaith toriadau ar yr incwm sydd gan deuluoedd â phlant i’w wario, yn enwedig pan fyddwn ni’n edrych ar faint o arian sydd gan deuluoedd ar ôl talu costau tai, a’r cynnydd mewn banciau bwyd, ond mae toriadau’n effeithio ar ansawdd bywyd mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae toriadau i wasanaethau ieuenctid, canolfannau cymunedol, gwasanaethau cymorth i deuluoedd, llyfrgelloedd a gwasanaethau cerddoriaeth i gyd yn cael mwy o effaith ar blant tlotach ac yn rhoi llai o gyfleoedd iddyn nhw chwarae rhan lawn yn ein cymdeithas fel dinasyddion sydd â rhywbeth i’w gyfrannu.
Ar sail dadansoddiad economaidd a chymdeithasol pwysig gan bobl fel Stuckler a Basu (The Body Economic: Why Austerity Kills) a Wilkinson a Pickett (The Spirit Level: Why More Equal Societies Almost Always Do Better), pan fydd cymdeithasau’n gwneud ymdrech i gau’r bwlch rhwng y tlotaf a’r mwyaf cyfoethog, mae pawb ar eu hennill yn y pen draw.
Mae rhaid i Lywodraeth Cymru a’n gwasanaethau lleol, yn eu tro, weithio gyda’r arian sydd ar gael iddyn nhw, fydd yn golygu rhagor o doriadau, ond dylen ni i gyd fod yn trafod y baich annheg mae’n rhaid i blant ei ysgwyddo yn sgîl toriadau. Mae honno’n drafodaeth werth ei chael ar ôl yr etholiad!