Cylchlythyr Awst

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst yw mis yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru, ac eleni anelodd Rocio am Bontypridd i gynnal sesiwn galw heibio gydag Aelod Seneddol yr ardal leol a’r Aelod o’r Senedd. Fe wnaethon ni gwrdd â phobl ifanc o’r ardal, a siarad â’r cynrychiolwyr etholedig am ein meysydd gwaith allweddol eleni. Yn y sesiwn, fe gwrddodd Rocio â chwech o bobl ifanc sy’n rhan weithredol o ymgyrch i fynegi pryderon ynghylch effaith chwarela yng Nghraig-yr-Hesc, a bu’n eu canmol am ddefnyddio’u llais ac ymwneud â’u cymuned leol.

Cynghorwyr Cymdeithasol

Rydyn ni’n gweithio gyda gwahanol grwpiau o bobl ifanc ledled Cymru fel cynghorwyr cymunedol, a’r mis yma fe wnaethon ni gwrdd ag ambell un ohonyn nhw yn ein swyddfa ym Mhort Talbot. Un o dasgau allweddol einCynghorwyr Cymunedol yw ein helpu i hybu hawliau plant. Yn y digwyddiad yma fe glywson ni gan Ofalwyr Ifanc Barnardo’s Merthyr a Llysgenhadon Hawliau’r Fro am eu holl waith, gan gynnwys sut mae Llysgenhadon Hawliau’r Fro wedi cyflwyno 42 o weithdai i fwy na 1200 o blant, ac wedi datblygu gêm bwrdd anhygoel am Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn.

Mae grwpiau cynghorwyr cymunedol hefyd yn ein helpu gyda darnau penodol o waith, a’r mis yma fe welson ni’r grwpiau yn ein cefnogi gyda’n prosiect ar dai, digartrefedd, a ble mae plant yn byw yng Nghymru. Trwy gyfuniad o weithgareddau a thrafodaethau, rhoddodd y cynghorwyr gipolwg gwych i ni ar faterion tai y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a phryderon ynghylch diogelwch cymunedol.

Cynhadledd Ieuenctid Gwychwynol Ysgolion Bro

Ar ddiwedd tymor yr haf, aeth rhai aelodau o’n tîm i Gynhadledd Ieuenctid gyntaf Ysgolion Bro yn Abertawe. Fe glywson ni gan ddisgyblion o chwe ysgol a ddaethat ei gilydd i rannu syniadau ynghylch sut gallai lleisiau ifanc gael effaith aruthrol ar lunio polisi ac adeiladu cymunedau llewyrchus.

Os ydych chi’n awyddus i gefnogi pobl i wneud gwahaniaeth a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion sy’n bwysig iddyn nhw, mae gennym ni adnodd dwyieithog ar gael am ddim ar ein gwefan, sef ‘Gwneud Gwahaniaeth’, a gallwch chi ei lawrlwytho trwy glicio ar y ddolen hon.

Terfysgoedd

Fe gawson ni’n synnu, ac roedden ni’n gwaredu at y digwyddiadau a welson ni’n digwydd ar draws trefi a dinasoedd y Deyrnas Unedigy mis yma. Roedd y trais oedd yn targedu pobl dim ond oherwydd eu hil neu eu crefydd, neu o ble roedd pobl yn tybio eu bod wedi dod, yn annerbyniol. Fe glywson ni gan blant eu bod nhw’n pryderu am beth roedden nhw wedi’i weld a’i glywed. Mewn ymateb, rydyn ni wedi ysgrifennu at yr Ysgrifenyddion Cabinet yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Addysg ac am Blant a Phobl Ifanc, gan gynnig ein cefnogaeth i greu deunyddiau newydd/gyfeirio ymlaen at ddeunyddiau sydd eisoes yn bodoli, a allai gefnogi ysgolion i gael sgyrsiau adeiladol am ymaterion, gan gynnwys cydlyniant cymunedol, ac i sicrhau eu bod nhw mewn sefyllfa gadarnhaol i gefnogi dysgwyr wrth iddyn nhw ddychwelyd ym mis Medi.

Yn y newyddion

Fe wnaeth ein tîm ymateb i’r Adolygiad Ymarfer Plant yn ddiweddar, oedd yn edrych ar achos trist Lola James, ac yn cymryd rhan mewn nifer o gyfweliadau yn y cyfryngau. Rydyn ni’n pryderu’n arbennig am gyflymdra’r newid sy’n deillio o’r Adolygiadau hyn. Mae’r ymchwiliadau hyn yn ymdrin â’r gweithredu mwyaf erchyll yn erbyn plant, ond yn llawer rhy aml, nid yw camau gweithredu Adolygiadau Ymarfer Plant blaenorol yn cael eu gweithredu’n llawn, hyd yn oed flynyddoedd wedi iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Rydyn ni’n dal i ofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y canllawiau newydd rydyn ni’n eu disgwyl yr Hydref yma yn cyflawni’r newidiadau y mae mawr angen amdanyn nhw. Gallwch ddarllen ein datganiad llawn yma.

Canlyniadau Arholiadau

Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu canlyniadau arholiadau ymis yma. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru ynghylch opsiynau, a pheidiwch ag anghofio am Warant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru – mae rhagor o wybodaeth am hynny ar wefan y Llywodraeth:

cymrungweithio.llyw.cymru