Ysgol Maes y Dderwen
Y mis hwn aeth Rocio a dwy aelod o’r tîm ar ymweliad i Grŵp Cydraddoldeb a Chynhwysiad Ysgol Maes y Dderwen er mwyn clywed lleisiau pobl ifanc am heriau cydraddoldeb sydd yn eu hwynebu yn ddyddiol. Trafododd y grŵp am heriau byw mewn ardal gweldig, yn ogystal â thrafod peryglon a phryderon sydd ganddynt am fepio a’r pwysau gan gyfoedion i’w defnyddio. Arweiniodd ein tîm gweithdy hawliau a oedd yn cynnwys gweithdy gyda ffocws ar faterion o gydraddoldeb. Diolch am rannu profiadau cadarnhaol a negyddol gyda ni.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Ar ddiwrnod iechyd meddwl y byd roedd hi’n bleser cael ymweld â Hafan Iechyd Meddwl cyntaf Cymru ar gyfer pobl ifanc. Bu hi’n ymweliad llawn gwybodaeth oedd yn trafod y gwasanaeth hollbwysig sy’n darparu cefnogaeth 24/7 i bobl ifanc sydd angen gofal brys. Roedd hi’n wych cael gweld hyn yn cael ei greu yn dilyn ein galwadau am wasanaeth tebyg yn ein hadroddiad Dim Drws Anghywir.
Digwyddiadau Llysgenhadon Ar-lein
Mae ein digwyddiadau llysgenhadon yn ffordd wych o ddod ag ysgolion ynghyd i ddysgu mwy am hawliau plant a sut mae ein swyddfa yn hyrwyddo a diogelu eu hawliau. Y mis hwn cynhaliom nifer o ddigwyddiadau ar lein ar gyfer i’n Hysgolion Llysgenhadon Gwych ac Uwchradd, lle cawsant y cyfle i glywed adborth am ein harolwg Gobeithion i Gymru ac i ofyn cwestiynau i Rocio am ein gwaith. Diolch yn fawr i’r holl ysgolion a wnaeth fynychu’r sesiynau.
Ysgol Gynradd Ringland
Cawsom wahoddiad i Ysgol Gynradd Ringland gan eu bod nhw wedi bod yn dysgu am ffoaduriaid. Arweiniodd ein tîm sesiwn ar Erthygl 22 y CCUHP gan ddarllen llyfr sy’n trafod y thema a bu’n cyfle i drafod y lluniau, sut fyddai’r cymeriadau yn teimlo, a beth fyddai’n digwydd nesaf. Roedd hi’n wych i weithio gyda grŵp o ddysgwyr brwdfrydig oedd gyda nifer o gwestiynau meddylgar am ein gwaith yn hyrwyddo a diogelu hawliau plant.
Ysgol Gynradd Cwm Clydach
Yn ddiweddar rydym wedi bod yn gweithio ar ffyrdd newydd o ymgysylltu gyda phlant a phobl Ifanc am eu hawliau. Arweiniom sesiwn pwnc llosg ar Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol gyda dysgwyr ym mlynyddoedd 4,5 a 6 yr ysgol. Roedd hi’n ddiddorol i glywed gan blant am beth maent yn credu sy’n eu cefnogi nhw orau a gwnaethant rannu sut maen yn diffinio iechyd meddwl a lles meddyliol. Roedd i’n ymweliad gwych a bu’n hyfryd i weithio gyda grŵp o blant oedd yn deall pwysigrwydd llais y disgybl.
Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg
Roedd hi’n hyfryd cael ymgysylltu gyda gweithwyr proffesiynol o’r sector iechyd, addysg a gofal cymdeithasol yng Nghynhadledd Cynllun Trawsnewid Blynyddoedd Cynnar Cwm Taf Morgannwg: pŵer perthynas rhiant a phlentyn iachus i newid bywydau. Ein rôl yn y Gynhadledd oedd trafod pwysigrwydd hawliau plant a sut gall gefnogi datblygiad optimaidd yn y blynyddoedd cynnar. Er enghraifft, diogelwch sydd yn cysylltu gydag Erthygl 19 y CCUHP.
Digwyddiadau Ffocws Iechyd Meddwl Lles Emosiynol
Eleni aethom ar ymweliadau i Flaenau Gwent ac i Ynys Môn am iechyd meddwl a lles emosiynol. Roedd hi’n wych i glywed o blant a phobl ifanc o ystod ysgolion uwchradd a chynradd am bethau sydd yn helpu eu lles yn ystod y diwrnod ysgol. Ym Mlaenau Gwent buom yng Nghymuned Dysgu Ebbw Fawr gan edrych ar beth oedd yn gweithio’n dda a beth allai bod yn well am les yn eu hamgylchedd dysgu. Cafodd ein digwyddiad yn Ynys Môn ei gynnal ym Miwmares gydag Ysgol David Hughes a’u hysgolion cynradd clwstwr. Roedd hi’n wych clywed cyfraniadau gwerthfawr gan ystod eang o oedrannau.
Mae ymweliadau a gwaith ymgysylltu fel hyn yn werthfawr gan ei fod yn galluogi safbwyntiau plant a phobl ifanc bwydo gwaith ein tîm polisi.