Ydych chi’n gallu cofio’r tro cyntaf i chi bleidleisio? Sut oeddech yn teimlo?
Gwnaeth ein Swyddog Cyfathrebu rhannu ei fyfyrdodau personol am bleidleisio am y tro gyntaf heb wybod llawer am wleidyddiaeth a’i obeithion ar gyfer y dyfodol.
Roeddwn i’n 19 pan fues i’n pleidleisio gynta mewn etholiad. Nid yn y Rhondda, lle ces i fy ngeni, digwyddodd hynny, ond yn Aberystwyth lle roeddwn i wedi symud i astudio yn 2009. Mewn amgylchedd yn llawn deallusrwydd, chwilfrydedd a thrafod, gallech chi dybio byddwn i di mynd i’r orsaf bleidleisio â barn bendant. Se chi hefyd yn meddwl, gan fod un o brif bwyntiau trafod etholiad cyffredinoI 2010 yn bwysig i gynifer o fyfyrwyr a phobl ifanc, y bysen i’n benderfynol o sicrhau bod fy llais yn cyfri.
Wel, se chi’n anghywir. Doedd gen i ddim barn wleidyddol wedi’i seilio ar unrhyw ffaith na gwybodaeth go iawn, na barn bendant am unrhyw beth mewn gwirionedd. Wedi dweud hynny, roeddwn i yn meddwl mai Beatles for Sale oedd albwm gorau’r fab four. Gorau po leia weda i am hynny, rwy’n credu. Fe es i bleidleisio i gael hwyl, a rhoi croes wrth enw cyd-fyfyriwr i fi oedd yn digwydd bod yn rheolwr pêl-droed y tîm o fyfyrwyr roeddwn i’n chwarae iddyn nhw. Oeddwn i’n gwybod ei farn am wahanol bethau? Ym… wel, roeddwn i’n gwybod bod e’n hoffi hyfforddi ar fore dydd Mawrth.
Felly, beth ddigwyddodd? Sut cyrhaeddais i’r pwynt yna?
Yr ateb syml yw, ddigwyddodd dim byd.
Doeddwn i rioed wedi trafod gwleidyddiaeth yn ystyrlon gyda Mam na Dad – mae’n siŵr mod i’n gwybod ar ôl cyrraedd rhyw oed dros bwy roedd fy rhieni’n pleidleisio, ond doeddwn i ddim wir yn gwybod pam, a sai’n siŵr bod nhw’n gwybod chwaith! Yn nhŷ tadcu a mamgu, roeddwn i bob amser yn codi’r papur newydd roedd Tadcu’n cerdded i’r siop i’w brynu bob dydd, ond doeddwn i byth yn mynd ymhellach na’r tudalennau cefn.
Beth am yr ysgol? Wel, roeddwn i wrth fy modd yn fy ysgol, ac fe ges i addysg gyfoethog iawn yno, ond fel llawer o bobl ifanc eraill, fe wnes i adael heb ddeall ein system wleidyddol o gwbl, na sut roedd fy llais a’m stori i’n ffitio mewn i hynny.
Dim ond pan ddes i weithio yn swyddfa’r Comisiynydd Plant y dechreuais i ddysgu mwy, a hyd yn oed wedyn, yng nghanol pobl wybodus ac mewn sefydliad oedd yn gweithio yn y byd yna, roedd y broses yn dal yn un araf.
Beth yw’r Senedd a sut mae’n wahanol i’r Llywodraeth? Ydyn nhw yr un peth? Beth maen nhw’n gwneud? Beth yw Gweinidog? Ydy hyn wedi datganoli? Pwyllgorau – beth yn nhw?!
Roedd gen i gymaint o gwestiynau, ac roeddwn i’n ofni gofyn rhai ohonyn nhw rhag ofn bydden i’n edrych yn ddwl. Yn y diwedd fe ddes i ben, ac rydw i’n falch mod i’n gallu ateb yr holl gwestiynau uchod nawr. Wel, y rhan fwya o’r amser.
Fe wnaeth y profiadau a’r meddyliau hyn fi’n falch o arwain ein gwaith ar etholiadau paralel i bobl ifanc 11-15 yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha. Etholiadau paralel oedd yn dilyn patrwm bywyd go iawn oedd y rhain, er mwyn annog pobl ifanc i ddysgu mwy am y bobl oedd yn sefyll yn eu cymunedau eu hunain, i ddysgu mwy am ein strwythur gwleidyddol, i bleidleisio, ac i weld sut byddai eu lleisiau’n gallu creu newid mewn bywyd go iawn.
Roedd bron pob un o’r bobl ifanc y buon ni’n gwrando arnyn nhw wrth ddatblygu ein hetholiad paralel a’r adnoddau cysylltiedig yn atgofio fi sut roeddwn i’n teimlo am wleidyddiaeth pan oeddwn i’r un oed.
Gyda help sefydliadau fel Comisiwn y Senedd, Cymdeithas Diwygio Etholiadau , a’r Comisiwn Etholiadol, fe wnaethon ni baratoi adnoddau newydd i bobl ifanc 11 oed a throsodd. Fe gynhalion ni ddigwyddiadau byw, gan gynnwys sesiwn amrywiol wych gyda’r Athro Laura McAllister, oedd yn gallu ennyn diddordeb y bobl ifanc nid yn unig â’i gwybodaeth am hanes gwleidyddiaeth a chyflawniadau’r syffrajets, ond hefyd ei hangerdd am bêl-droed.
Yn y diwedd, bu bron 10,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn ein hetholiad paralel cyntaf, o 89 o ysgolion gwahanol mewn 36 o 40 etholaethau’r Senedd yng Nghymru. Dywedodd 59% eu bod yn fwy tebygol o bleidleisio yn etholiad go iawn y Senedd ar ôl cymryd rhan, a chofrestrodd 31% i gymryd rhan mewn etholiadau swyddogol wedyn. Dywedodd bron dau draean (61%) eu bod nhw nawr yn gwybod mwy am y Senedd, a dywedodd 67% eu bod nhw wedi dysgu pwy oedd yn sefyll yn eu hardal.
Mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar eu papur gwyn ynghylch diwygio a gweinyddu etholiadau, gan gynnwys edrych ar ffyrdd o gefnogi ac addysgu pobl ifanc yn ddigonol i gymryd rhan mewn etholiadau, rydyn ni wedi tynnu sylw at etholiadau paralel fel rhywbeth i Lywodraeth Cymru ei gymryd o ddifri os ydyn nhw’n wir am feithrin cymdeithas o ddinasyddion gweithredol.
Bydd Ella, fy mhlentyn hynaf, yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad Senedd 2036. Fel mae’n digwydd, bydd hi’n 19, yr un oed ag oeddwn i pan ddewisais i’r unig enw cyfarwydd o restr oedd yn golygu dim byd i fi. Rydw i’n obeithiol ac yn hyderus y bydd hi, erbyn hynny, yn gwybod digon i wneud i’w llais gyfri.
Adnoddau ar gyfer addysgwyr
Mae’r adnoddau a ddatblygwyd fel rhan o’n hetholiad paralel ar gael ar ein gwefan Prosiect Pleidlais.
Mae yna hefyd adnoddau arbennig ar gael gan y Comisiwn Etholiadol a’r Senedd.