Dyma blog a chylchlythyron y Comisiynydd Plant.
Dechreuodd Rocio Cifuentes fel y Comisiynydd ym mis Ebrill 2022.
Datgloi Breuddwydion Cudd Ymadawyr Gofal: Dechrau taith ledled Cymru
Yr wythnos hon rydw i wedi cychwyn ar y cyntaf o 22 o gyfarfodydd. Yn ystod yr wythnosau nesa bydda i’n ymweld â phob awdurdod lleol yng Nghymru i gwrdd â’r prif lunwyr penderfyniadau lleol: Prif Weithredwyr, arweinwyr etholedig a phenaethiaid gwasanaethau cymdeithasol, tai ac addysg. Bydda i’n gofyn
Ydy’r cyfryngau cymdeithasol yn anghymdeithasol? Dyfarniad plant 10 oed
Ar ddiwedd blwyddyn diwethaf fe ges i’r pleser o fynd i’m trafodaeth ysgol gynradd gyntaf erioed. Er fy mod i’n clywed plant cynradd yn mynegi eu hunain yn rhugl yn rheolaidd ynghylch materion cymdeithasol ein cyfnod, hwn oedd y tro cyntaf i mi eu gweld nhw’n cael cyfle i wneud
Gwneud achosion cyfreithiol yn hygyrch i blant
Post gwestai gan Rachel – Cynghorydd Polisi Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o gynnwys yn cael ei greu sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei ddeall, ond anaml y byddwn ni’n cysylltu ‘Cymraeg Clir’ neu fersiynau ‘hwylus i blant’ ag achosion cyfreithiol. Serch hynny, mae barnwyr yn awr
Senedd Ieuenctid i Gymru: ychwanegiad i’w groesawu i’n democratiaeth
Roeddwn wrth fy modd yn gweld y Llywydd Elin Jones AC yn cyhoeddi bwriad Comisiwn y Cynulliad i sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru. Bydd ei chefnogaeth yn cael effaith fawr. Yn gyntaf, mae’n anfon neges glir at blant a phobl ifanc Cymru eu bod nhw’n ddinasyddion pwysig sydd â
Mae fy Llysgenhadon nôl!
Mae mis Medi yn fis cyffrous yn y swyddfa gan ein bod ni’n cofrestru ysgolion cynradd ar ein cynllun Llysgenhadon Gwych. Mae llawer yn ailgofrestru, fel sy’n digwydd bob blwyddyn, tra bod eraill yn ymuno â’r cynllun am y tro cyntaf erioed. Mae fy Llysgenhadon Gwych yn chwarae rhan
Plant sydd yn ein Gofal – rhaid i ni sicrhau bod yr hanfodion yn iawn
Yn ystod yr wythnosau diwetha rydw i wedi bod yn treulio amser gyda phobl ifanc o 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd y bobl ifanc hyn o wahanol oedrannau, ac yn amrywio’n fawr o ran diddordebau, steil bersonol a doniau. Roedd gan bob un ohonyn nhw uchelgais
Celf, ieir, a hawliau plant
Blog gwestai gan Lois Medi, aelod o’n Panel Ymgynghorol Ar ddydd Mawrth, y deuddegfed o Orffennaf, fe gynhaliwyd cyfarfod cyntaf panel ymgynghorol Comisiynydd Plant Cymru. Roedd yn ddiwrnod gwych a chynhyrchiol a wnaeth ein hannog hyd yn oed yn fwy i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant Cymru. Mae cyfanswm
Cryfach Gyda’n Gilydd dros blant a phobl ifanc
Post gwestai gan Hywel Dafydd – Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Fel gweddill y wlad, rydw i’n dal yn llawn diolchgarwch, balchder a llawenydd am gyflawniadau tîm pêl-droed Cymru yn ystod Ewro 2016. Bu llawer ohonon ni’n ddigon ffodus i adeiladu’r wal goch mewn stadiwm Ffrengig gwych, ond mae’n deg
Dyfarniad y Cenhedloedd Unedig ynghylch hawliau plant yn y Deyrnas Unedig: agenda ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru
Ddydd Iau diwethaf (9.6.16) cyhoeddwyd adroddiad oedd yn rhoi dyfarniad y Cenhedloedd Unedig ar sefyllfa hawliau plant yn y Deyrnas Unedig. Cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ei Sylwadau Terfynol yn dilyn ei archwiliad cyfnodol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Hwn oedd y tro cyntaf i’r Pwyllgor