Yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld nifer o benawdau wrth i blant gael eu hynysu, eu gwahardd o’r ysgol, neu golli amser chwarae oherwydd dillad, gwallt, gemwaith, aeliau neu golur ‘amhriodol’.
Ymddengys bod ysgolion mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig yn gwneud eu polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion gryn dipyn yn fwy llym, gyda’r nod o leihau amrywiaeth yn edrychiad disgyblion, eu gwneud yn fwy gweddus, a chyfyngu ar fynegiant o’r hunan. Er bod rhai o’r enghreifftiau mwyaf eithafol sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau wedi digwydd mewn cadwyni o academïau yn Lloegr, mae tuedd at fod yn ‘llym’ yn dod i’r amlwg yng Nghymru hefyd.
Beth yw’r manteision o bolisïau llym?
Ond beth yw manteision polisïau llym ar wisg ac edrychiad, ac oes yna agweddau negyddol i’r duedd gynyddol hon mewn ysgolion?
Does dim llawer o dystiolaeth ymchwil ar gael i brofi’n bendant bod gwisg ysgol yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar ymddygiad neu ganlyniadau disgyblion. Mae’r astudiaethau ymchwil sy’n dangos effaith gadarnhaol yn tueddu i ganolbwyntio ar wisgo gwisg swyddogol neu beidio, yn hytrach nag edrych ar effaith gorfodi rheolau penodol yn llym.
Serch hynny, er bod llawer o wledydd yn Ewrop yn ymdopi’n iawn heb wisg ysgol, mae’n rhan bwysig o’n diwylliant ysgol ni yn y Deyrnas Unedig, ac mae llawer yn dadlau bod gwisg ysgol safonol yn lleihau tebygolrwydd bwlio oherwydd bod disgyblion heb gymaint o incwm yn methu gwisgo’r un labeli drud ag eraill.
Fodd bynnag, erbyn hyn mae llawer o ysgolion nid yn unig yn disgwyl gwisg ysgol, ond hefyd yn pennu rheolau llym ynghylch cotiau, esgidiau, gwallt, a siâp a hyd sgertiau a throwsus.
Rwy’n amheus iawn ynghylch rhai o’r rheolau hyn, yr ymddengys eu bod wedi cael eu cyflwyno heb roi sylw i dystiolaeth bendant ynghylch ‘beth sy’n gweithio’, ac mewn rhai achosion gallant amharu ar hawliau plant i gael addysg, cymdeithasu, chwarae, triniaeth deg a pheidio â dioddef camwahaniaethu.
Hawliau Plant
Fy ngwaith i yw sefyll i fyny dros hawliau dynol plant a chodi llais am y pethau mae plant yn dweud wrthyf fi sy’n bwysig iddyn nhw. Rwy’n ymweld â llu o ysgolion bob blwyddyn ac yn cwrdd â miloedd o blant a phobl ifanc. Gwisg ysgol (ochr yn ochr â bwlio, iechyd meddwl, addysg rhyw a pherthnasoedd a straen arholiadau) yw un o’r prif bethau rwy’n clywed amdano. Yn gynharach eleni fe gyhoeddais i adroddiad oedd yn cyfleu effaith polisïau gwisg ysgol llym ar blant a theuluoedd o bob rhan o Gymru y bu fy nhîm yn siarad â nhw.
Fy awgrymiadau
Dyma fy awgrymiadau pennaf ar gyfer dull seiliedig ar hawliau o ymdrin â pholisïau gwisg ysgol.
- Cofiwch gynnwys holl gymuned yr ysgol wrth ddatblygu polisïau gwisg ac edrychiad: bydd unrhyw reolau’n fwy llwyddiannus os bydd gennych chi gytundeb cyffredinol rhwng staff, disgyblion a rhieni ynghylch beth sy’n deg.
- Cofiwch feddwl am gost gwisg ysgol. Oes angen logo ar bob eitem? Beth am logo ar y siwmper neu’r siaced yn unig, neu drefnu bathodynnau sy’n gallu cael eu gwnïo ymlaen? Edrychwch ar ein hadnodd Cofia Ceri
- Cofiwch wneud yn siŵr bod athrawon a staff eraill yr ysgol hefyd yn gorfod dilyn yr un rheolau sylfaenol o ran bod yn weddus neu ddefnyddio colur – gall arddegwyr synhwyro rhagrith o bell.
- Cofiwch ofalu bod gwisg ysgol yn cael ei ailgylchu heb stigma. Mae rhai plant yn dod o sefyllfa lle mae’n gallu golygu ymdrech fawr i brynu siaced neu ddillad ymarfer corff newydd, ac mae effaith amgylcheddol dillad newydd yn aruthrol. Edrychwch ar ein prosiect Gwyrdd-droi.
- Cofiwch ystyried beth gallai plentyn fod wedi’i wynebu cyn cyrraedd yr ysgol. Os yw plentyn yn byw gyda phrofiadau trawmatig y tu allan i’r ysgol, oni fyddai’n well dweud ‘sut wyt ti heddi?’ wrthyn nhw ar ddechrau’r diwrnod ysgol, yn hytrach na rhoi cerydd am eu sgidiau.
- Peidiwch â defnyddio cosbau sy’n amddifadu plant o’u hawliau eraill, er enghraifft yr hawl i chwarae trwy eu hatal rhag cael amser chwarae, neu’r hawl i gael addysg trwy eu gwahardd am ddiffygion yn eu gwisg. Gall ynysu fod yn achos difrifol o dorri hawliau hefyd. A oes ffyrdd mwy cadarnhaol o annog disgyblion i ddilyn y rheolau?
- Peidiwch â dweud wrth ferched bod eu sgertiau byr neu eu trowsus tynn yn tynnu sylw’r bechgyn, neu’n waeth fyth yr athrawon gwryw. Meddyliwch am y negeseuon mae hynny’n eu cyfleu. Rwy’n clywed am hynny’n gyson.
- Peidiwch â mygu holl unigrywiaeth disgyblion. Mae’r glasoed yn gyfnod i arbrofi gyda hunaniaeth. Fydd stribed o liw yn eu gwallt yn wir yn creu annhrefn yn yr ysgol?
- Peidiwch â chreu rheolau rhywedd-benodol, e.e. dim ond bechgyn sy’n cael gwisgo trowsus a dim ond merched sy’n cael gwisgo sgert.
- Yn olaf, cofiwch fod yn atebol i’r disgyblion. Esboniwch pam mae rheolau’n cael eu cyflwyno a sut byddwch chi’n gwerthuso pa mor effeithiol ydyn nhw.
Yn gynharach eleni cyflwynodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad i adlewyrchu rhai o’r awgrymiadau hyn ynghylch dillad heb frandiau a rheolau gwisg ysgol dirywedd. Cyflwynwyd y canllawiau hyn ym mis Gorffennaf, ac rwyf finnau nawr yn annog pawb sy’n gyfrifol am hyn i fynd i’r afael â’r mater ar y cyd â disgyblion a’u teuluoedd. Byddaf fi’n cymryd diddordeb byw mewn gweld sut mae ysgolion yn rhoi sylw i’r mater yma, ac yn siarad â phlant i helpu i ddeall oes yna newid yn digwydd yn y maes yma mewn gwirionedd.