Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i’w llais a chael eu barn wedi ei gymryd o ddifri, ond hyd at nawr nid yw lleisiau pobl ifanc Cymru wedi derbyn platfform cenedlaethol. Rydw i wrth fy modd i groesawu cyfarfod cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru ar y 23ain o Chwefror eleni. Mae hyn yn pwysleisio ac yn cryfhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r CCUHP i sicrhau fod pob plentyn ar draws Cymru yn derbyn ac yn deall eu hawliau, gan gynnwys yr hawl i ddweud eu dweud mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Mae’r cyfnod newydd a chyffrous yma yn hanes gwleidyddol Cymru nid yn unig yn cyflawni hawl pobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ond rwy’n disgwyl iddo hefyd ein helpu ni fel cenedl i wneud gwell penderfyniadau. Mae’n sicrhau bod gwleidyddion yn sylweddoli pwysigrwydd lleisiau pobl ifanc a sut y gall y lleisiau hyn ein helpu i lunio dyfodol gwell. O fy mudiad fy hun, i ysgolion, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, mae llawer wedi elwa o sylweddoli bod pobl ifanc yn fedrus wrth ddod â safbwyntiau a syniadau newydd i wella’r byd y maen nhw’n byw ynddo. Bydd y Senedd Ieuenctid yn gyfle i feithrin a datblygu’r syniadau hyn ar lefel cenedlaethol, a bydd yn fforwm i wleidyddion a sefydliadau eraill ystyried barn pobl ifanc wrth edrych ar bolisïau sy’n effeithio arnynt yn awr ac yn y dyfodol.
Mae pobl ifanc Cymru wedi croesawu’r cyfle hwn gyda bron i 500 o ymgeiswyr wedi ymgeisio am y 40 sedd rhanbarthol. Rhif anhygoel, gan ddangos fod pobl ifanc yn gwerthfawrogi’r cyfle hwn. Bydd y Senedd Ieuenctid yn amrywiol, gan gynrychioli gwir ddarlun pobl ifanc yng Nghymru. Mae’n braf gweld rhaniad cytbwys o ran rhyw yn y fenter hon, gyda thri deg pump o aelodau benywaidd a dau ddeg pump o aelodau gwrywaidd. Mae tîm y Cynulliad Cenedlaethol, sy’n cefnogi’r Senedd Ieuenctid hefyd, wedi sicrhau bod gan bobl ifanc o grwpiau amrywiol a rhai sydd weithiau wedi’u amddifadu o gyfleoedd y cyfle i gymryd rhan drwy’r 20 sedd a roddir i sefydliadau partner.
Bydd y Senedd Ieuenctid yn rhoi llwyfan i bobl ifanc leisio’u barn ar faterion sy’n bwysig iddynt. Yn rhan o’r broses i gael eu hethol gofynnwyd i bob ymgeisydd nodi tri phrif fater y byddent yn hoffi mynd i’r afael â nhw. Nid oedd yn syndod o gwbl i weld problemau iechyd meddwl yn cael ei godi fwyaf gan ymgeiswyr. Rhoddwyd llawer o sylw hefyd i faterion eraill megis cael cwricwlwm sy’n dysgu sgiliau bywyd, effaith plastig defnydd un-tro ar ein hamgylchedd, tlodi a digartrefedd, bwlio a gostwng yr oedran pleidleisio. Mae’r ymgeiswyr ifanc hyn wedi dangos aeddfedrwydd mawr yn y materion maent wedi’u dewis trafod, gan dynnu sylw at faterion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal â’r oedolion o’u cwmpas.
Edrychaf ymlaen at weld sut y maen nhw’n dymuno fy nal i fel y Comisiynydd Plant yn gyfrifol ar ba mor effeithiol rwy’n gweithio i ddatrys materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc yng Nghymru. Gobeithio y bydd hyn yn ddechrau ar berthynas hir ac adeiladol.
Rydyn ni’n torri tir newydd, cyffrous a phwysig wrth greu’r Senedd Ieuenctid a drwy’r posibilrwydd o ostwng yr oedran pleidleisio i un ar bymtheg blwydd oed, mae pwysigrwydd barn pobl ifanc yn cael ei gydnabod yn glir. Mae’r seneddwyr ifanc hyn am drafod gyda gwleidyddion y materion sy’n bwysig iddyn nhw, ac am i’r gwleidyddion hynny wrando ar beth sydd ganddynt i’w ddweud. Drwy gydnabod y rôl bwysig y gall pobl ifanc yng Nghymru ei chwarae fel dinasyddion, gallwn ddechrau gweithio o ddifrif tuag ar ddyfodol gwell a mwy cytûn ar gyfer pob cenhedlaeth.