Sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i argymhellion IICSA?

  • yn gywir ar 21 Ionawr 2025

Beth oedd y 6 argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru? 

Roedd yr argymhellion yn ymwneud yn sylfaenol â gwella’r data, sefydlu Awdurdod Amddiffyn Plant, codi ymwybyddiaeth y yyhoedd, a sicrhau cefnogaeth therapiwtig arbenigol i blant sy’n dioddef cam-drin rhywiol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr holl argymhellion, o leiaf mewn egwyddor, ond mae’r cynnydd tuag at eu gweithredu wedi bod yn araf. Rydym yn gwybod bod gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol rôl wrth fonitro’r cynnydd hwn; sef edrych i ba raddau y mae’r camau y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru yn datblygu yn effeithiol.  

Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ddiweddariad llawn. 

 Mae’r 6 argymhelliad wedi’u nodi yn y dogfen yma. 

  • Un set ddata graidd – mae hyn yn cynnwys data am nodweddion dioddefwyr a chyflawnwyr, a materion diogelu cyd-destunol.  Rydym yn deall bod gwaith yn datblygu ar hyn ar lefel Cymru a’r DU, ac y byddai hyn yn rhan o gynllun gweithredu cenedlaethol cam-fanteisio rhywiol / cam-drin Plant Llywodraeth Cymru- ond mae hyn yn dal i aros am ymgynghoriad cyn cael ei gwblhau.   

Roedd y cynllun gweithredu cenedlaethol blaenorol yn rhedeg ar gyfer 2019-2022, felly nid oedd hyn yn ystyried unrhyw un o argymhellion yr IICSA. Dyma un o’n hargymhellion blynyddol ar gyfer 2022-3: 

“Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol o’r newydd ar Atal Cam-drin Plant yn Rhywiol yn ymateb yn effeithiol i argymhellion ymchwiliad IICSA ac yn ymgorffori barn plant a phobl ifanc yn sensitif”. 

Nid oes cynllun newydd wedi dod yn ei flaen ers hynny, felly mae cyfleoedd yn weddill i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r argymhellion hyn ond mae angen gweithredu i ddod â chynllun newydd i rym. 

  • Sefydlu Awdurdod Amddiffyn Plant i Gymru –  

Mae tair elfen i’r rôl hon.  Dylai pob Awdurdod fod yn:  

  • Gwella ymarfer amddiffyn plant; 
  • darparu cyngor a gwneud argymhellion i’r llywodraeth mewn perthynas â pholisi amddiffyn plant er mwyn gwella amddiffyn plant; a 
  • arolygu sefydliadau a lleoliadau fel y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn addas.

Yn eu hymateb i’r ymchwiliad, mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (NISB) fel un sy’n cyflawni’r ddwy elfen gyntaf, ac arolygiaethau fel Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer yr agwedd monitro ac archwilio.  

Er bod gan yr NISB oruchwyliaeth dros y sector drwy’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, a gallant wneud argymhellion i’r LlC ar faterion diogelu, maent yn cwmpasu pob oedran felly nad ydynt yn awdurdod amddiffyn plant penodol.  Mae eu hadnoddau yn gyfyngedig iawn gan nad ydynt yn gorff llawn amser – mae gan bob aelod oddeutu diwrnod y mis wedi’i ddyrannu i’r hyn sydd eisoes yn faes gwaith prysur.  Nid oes unrhyw lywodraethu sy’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ymateb yn ffurfiol i unrhyw argymhellion NISB felly nid oes mecanwaith atebolrwydd a allai wedyn yrru’r gwelliannau hynny i ymarfer, a pholisïau newydd. 

Mae meysydd diogelu ac amddiffyn plant nad ydynt yn dod o fewn eu cylch gwaith (neu gylch gorchwyl unrhyw un arall) o ran oruchwyliaeth, gan gynnwys sefydliadau crefyddol, chwaraeon lleiafrifol (heb ffederasiwn na chorff llywodraethu cenedlaethol), a grwpiau mewn lifrai.  Er enghraifft, canfu adroddiad 2024 ar gam-drin rhywiol hanesyddol Ynys Bŷr fod argymhellion blaenorol wedi cael eu derbyn gan yr Abaty ond ni fu llawer o gamau i fynd i’r afael â phwyntiau allweddol fel hyfforddiant.  Doedd neb wedi goruchwylio i sicrhau bod camau’n cael eu cymryd, gan nad yw’n eistedd o fewn rôl unrhyw gorff neu sefydliad ar hyn o bryd. 

Mae ein cylch gwaith yn ymwneud â chyrff statudol a enwir fel awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ysgolion, ond nid yw’n ymestyn i unrhyw un o’r categorïau hyn.  

Er y bydd NISB a AGC yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion sy’n berthnasol i’r ddau ohonynt, nid yw hyn yr un fath â chael pob elfen a gweithred wedi’i gynnal gan un sefydliad.  Roedd yr ymchwiliad yn amlwg yn rhagweld corff newydd yn cael ei sefydlu, i gwmpasu’r holl elfennau hyn. 

Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer yr argymhelliad hwn yn golygu nad ydynt yn archwilio’r cyfle i gyflwyno dull goruchwylio mwy cynhwysfawr ar gyfer materion amddiffyn plant ledled Cymru. Gellid dadlau nad ydynt wedi cymryd yr argymhelliad gan IICSA yn ddigon difrifol i gydnabod yr angen i gymryd camau newydd/ychwanegol, gan fod NISB ac AGC eisoes ar waith pan gynhaliwyd ymchwiliad IICSA. 

  • Gweinidog Cabinet dros Blant –  

Mae’n bositif fod y Prif Weinidog wedi penodi Dawn Bowden yn Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.  Er bod ganddi ‘blant’ yn ei theitl portffolio, nid yw ei phortffolio yn cynnwys pob mater sy’n ymwneud â phlant, ac nid oes ganddi swyddogion yn adrodd iddi ar bob mater sy’n ymwneud â phlant.  Mae ganddi ddiogelwch yn ei chyfrifoldebau uniongyrchol. 

Nid swydd ar lefel cabinet yw’r swydd felly gellid dadlau nad yw’r apwyntiad mor uchel a’r hyn a ragwelir gan IICSA. 

Mae’n nodedig na wnaed y newid portffolio hwn mewn ymateb i argymhellion yr IICSA; Nododd ymateb 2023 gan Lywodraeth Cymru i IICSA fod yna bedwar Gweinidog â chyfrifoldeb dros faterion plant, a bod dau ohonynt yn bresennol yn y Cabinet, ac roeddent o’r farn bod hyn wedi boddhau’r argymhelliad er nad oeddent wedi gwneud unrhyw newidiadau penodol o ganlyniad i IICSA. 

  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd –  

Mae hwn yn fater allweddol i ni ac yn rhywbeth codon ni fel rhan o’m tystiolaeth i’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd.   Fe’i codwyd yng nghyd-destun yr argymhelliad nesaf, ar adrodd gorfodol, a chafodd ei drafod yn ein cyflwyniad tystiolaeth ysgrifenedig, yn ogystal ag mewn llythyr dilynol at y Pwyllgor. 

Dywed Llywodraeth Cymru nad oes angen iddynt ehangu’r ddyletswydd adrodd orfodol ymhellach, ac yn hytrach mae’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r ddyletswydd bresennol i adrodd ar weithwyr proffesiynol allweddol.  Fel y nodwyd yn ein llythyr, mae LlC wedi nodi eu safbwynt, ond nid ydynt wedi nodi’r camau y maent bellach yn eu cymryd wrth godi ymwybyddiaeth.  Er mwyn derbyn eu rhesymu, hoffem weld mwy o fanylion am y cynlluniau codi ymwybyddiaeth a’r camau gweithredu, er mwyn cael sicrwydd bod hyn yn ddigonol i sicrhau bod plant ledled Cymru yn cael eu cadw’n ddiogel. 

  • Adrodd gorfodol – fel uchod, mae LlC yn cyfeirio at y ddyletswydd yn Adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a oedd ar waith cyn argymhellion yr IICSA. 

Gwnaethom dynnu sylw yn ein tystiolaeth ysgrifenedig ar bryderon y Bil (uchod) am weithwyr proffesiynol nad ydynt efallai’n ymwybodol o’r ddyletswydd hon, gan nodi enghraifft o ogledd Cymru sydd wedi bod yn y newyddion, lle mae’n ymddangos y gallai gweithwyr addysg proffesiynol fod â phryderon nad oeddent wedi’u trosglwyddo’n ddigonol trwy atgyfeiriadau ffurfiol. 

Mae ymchwiliadau’n parhau mewn perthynas â’r mater hwnnw, a ddylai ddweud mwy wrthym am yr hyn a ddigwyddodd neu na ddigwyddodd, ond ar yr wyneb, mae’n ymddangos y gallai cyfleoedd fod wedi’u colli i ddiogelu’r plant yr effeithir arnynt, a gall hyn fod yn gysylltiedig â diffyg ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth o’r ddyletswydd hon, a fyddai wedi bod yn berthnasol i weithwyr addysg proffesiynol yn 2019. 

  • Gwarant genedlaethol o gymorth therapiwtig arbenigol i blant sy’n dioddef cam-drin rhywiol –  

Derbyniodd LlC yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, gan nodi’r angen i weithio gyda phartneriaid ar yr opsiynau ar gyfer comisiynu a darparu’r cymorth hwn. 

Rydyn ni wedi ymweld â’r model Goleudy yn Llundain gyda Chomisiynwyr Plant eraill y DU, yn 2019 ac eto yn 2024.  

Y Goleudy yw Tŷ Plant cyntaf y DU ac mae’n seiliedig ar fodel rhyngwladol Barnahus. Mae’n cael ei redeg gan University College London Hospitals NHS Foundation Trust (UCLH) mewn partneriaeth â’r Heddlu Metropolitan a’r NSPCC.  

Mae’r model yn ymwneud â sicrhau y gall plant wella o gam-drin rhywiol, gan ganolbwyntio ar gael plant a phobl ifanc y cymorth cywir ar yr adeg gywir, drwy roi’r holl wasanaethau sydd eu hangen i ymateb i gam-drin rhywiol o dan yr un to. Gellir darparu cymorth meddygol, eiriolaeth, gofal cymdeithasol, yr heddlu a therapiwtig o’r un lle, mewn amgylchedd diogel a chyfforddus i’r plentyn. 

Gwnaethom godi’r dull hwn gyda Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2019 trwy ein cyfarfodydd bwrdd crwn camfanteisio/cam-drin plant yn rhywiol ac mewn gohebiaeth.  Bryd hynny roedden nhw’n aros am werthusiad o’r model Goleudy cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen. 

Mae cynllun gweithredu cenedlaethol 2019-22 y Llywodraeth yn cyfeirio at ystyried amrywiaeth o fodelau ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn a fydd yn llywio datblygiad gwasanaethau cynyddrannol, gan gynnwys mabwysiadu dull Barnahus neu Child House yn y cynllun peilot cyntaf yn y DU, y gwasanaeth Goleudy yn Llundain a modelau sefydledig eraill o arfer da fel yr un yng Nghanolfan y Santes Fair SARC,  Manceinion. 

Bwriad hyn oedd llywio Manyleb Gwasanaeth cenedlaethol o wasanaethau SARC i blant yng Nghymru.  

Nid yw’r fanyleb wedi’i chynhyrchu i’n gwybodaeth ac nid oes darpariaeth o’r fath yn bodoli yng Nghymru.  Er bod Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) ledled Cymru, gall y rhain fod mewn ysbytai neu leoliadau anghyfarwydd eraill, ac nid ydynt wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer plant.