Mae tri mis wedi mynd heibio ers i mi gychwyn yn swydd Comisiynydd Plant Cymru, swydd bwysig yn sefyll i fyny dros hawliau’r 630,000 o blant sy’n byw yng Nghymru.
Un o rannau pwysicaf fy rôl yw gwrando ar beth mae plant a phobl ifanc yn dweud wrthyf fi sy’n bwysig iddyn nhw, ac rydw i wedi gallu mynd o gwmpas ledled Cymru i gwrdd a gwrando ar amrywiaeth eang o blant ym mhob cwr o’n gwlad. Dros y tri mis diwethaf, gyda help fy nhîm, rydyn ni wedi cael cyswllt gyda dros 11,000 o blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Ond er gwaethaf yr holl wahaniaethau rhyngddyn nhw, y peth trawiadol yw faint sydd ganddyn nhw’n gyffredin o ran eu profiadau a’r pethau sy’n achosi pryder iddyn nhw.
‘Tlodi plant wedi bod yn rhan anferth o’m sgyrsiau’
Mae tlodi plant, yn arbennig wrth i filiau godi yn y cefndir, wedi bod yn rhan anferth o’m sgyrsiau gyda phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ers cychwyn yn fy swydd. Rydw i hefyd wedi clywed am brofiadau pobl ifanc o hiliaeth yn eu hysgolion a’u cymunedau, a’u pryderon ynghylch cynnydd mewn problemau iechyd meddwl a diffyg darpariaeth yn y maes hwnnw.
Yn ogystal â chlywed am eu pryderon, rydw i hefyd wedi cael cyfarfodydd a digwyddiadau gwych, llawn hwyl, wedi cael cyfle i ddod i nabod fy nhîm newydd neilltuol, wedi cwrdd â’m paneli ymgynghorol ardderchog, ac wedi sefyll fy arholiad Cymraeg cyntaf (a phasio gobeithio!). Rydw i wedi profi fy Eisteddfod gyntaf, a’i mwynhau yn fawr, ac wedi cael cyfle uniongyrchol i weld y gwaith gwych mae’r Urdd yn ei wneud i gefnogi plant sy’n ffoaduriaid o Wcrain a’u teuluoedd.
Tlodi Plant/Costau Byw
Yn ystod fy niwrnodau cyntaf fel Comisiynydd, fe gwrddais i â merch oedd yn amlwg yn pryderu sut byddai ei theulu yn ymdopi ym mis Medi pan fyddai ei brawd iau yn ymuno â hi yn yr ysgol uwchradd. Ar hyn o bryd, mae cost teithio ar y bws i dderbyn ei hawl i gael addysg o fewn eu cyrraedd, o ryw fymryn, ond mae hi’n pryderu na fyddan nhw’n medru talu am ddau berson ifanc yn y tymor newydd. Mae’r pryderon hyn, ddylai ddim bod yn llanw meddyliau ein pobl ifanc, yn pwyso ar nifer fawr o’r rhai rydw i’n cwrdd â nhw.
Fel mae adroddiadau diweddar wedi cadarnhau, mae’n drist dros ben bod bron 190,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru – i roi hynny mewn i gyd-destun, byddai ysgol i’r plant yma i gyd yn gorfod cael dros 6,000 ystafell ddosbarth, a byddai’r coridor yn 20 milltir hir. Mae hynny fel cerdded o Gaerdydd i Ben-y-Bont, o Aberystwyth i Fachynlleth, neu o Fangor i Fae Colwyn.
Ydy’r plant hyn yn mwynhau eu hawliau dynol, eu hawl i gael iechyd, addysg, a chyflawni hyd eithaf eu potensial?
Mae hyn yn rhywbeth ddylai beri i ni bwyllo, ac mae’n ein hatgoffa am yr her aruthrol mae ein gwlad yn ei hwynebu, hyd yn oed cyn i argyfwng costau byw waethygu yn ystod y misoedd nesaf. Mae’n siŵr gen i y bydd gan lawer ohonoch chi sy’n darllen hwn yn bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc, ac yn rhieni – ofnau tebyg.
Rydw i wedi galw eto ar y Llywodraeth i greu cynllun gweithredu cynhwysfawr a chlir ynghylch tlodi plant. Mae angen i hynny ddangos y gefnogaeth benodol byddan nhw’n ei rhoi i’r niferoedd aruthrol o deuluoedd sy’n cael trafferth ymdopi wrth i gostau godi’n barhaus, a sut byddan nhw’n mesur effaith eu camau gweithredu.
Rydw i am ganolbwyntio ar yr hyn y gallan nhw ei wneud; nid beth sydd tu hwnt i’w gallu.
Er enghraifft, mae ganddyn nhw’r gallu i roi trafnidiaeth am ddim i bawb o dan 18 oed, a byddai hynny’n cael ei ddathlu’n fawr gan y bobl ifanc rydw i wedi cwrdd â nhw yn ystod y misoedd diwethaf. Byddai’n eu helpu nhw i gyrraedd yr ysgol, i ymweld â’u ffrindiau, ac i gael mynediad i gyfleusterau iechyd a hamdden. Byddai’n lleihau ein dibyniaeth ar geir, ac felly’n helpu i ddiogelu’r amgylchedd yn ogystal – ble mae’r anfanteision?
Ond beth bynnag fydd yn digwydd nesaf, mae angen cynllun clir. Nid dim ond er mwyn i ni (y gweithwyr proffesiynol) fedru gweld sut byddan nhw’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng yma, ond er mwyn i ni fedru gweithio ar y cyd â phlant a theuluoedd i’w galw i gyfrif am safon eu hymateb.
Hiliaeth, a Iechyd Meddwl
Yn ystod fy nghyfnod byr fel Comisiynydd, rydw i eisoes wedi clywed bachgen 12 oed o Gymru yn sôn am gyd-ddisgybl yn dweud wrtho am ‘fynd nôl i’w wlad ei hun’ a phobl ifanc eraill yn rhannu eu profiadau eu hunain o ddigwyddiadau hiliol, yn yr ysgol ac yn eu cymunedau.
Y gwir amdani yw, does dim rhaid i chi edrych ymhell i gael hyd i’r hanesion yma. Pan fyddwch chi’n gwrando ar bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig, mae’n debygol iawn y bydd ganddyn nhw brofiadau tebyg.
Fel Comisiynydd Plant, rwy’n benderfynol o gael effaith bositif yn y maes yma. Rydw i am barhau i wrando – ar bobl ifanc, ac ar y bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda nhw, i ddeall sut gallwn ni wella eu profiadau – ac i gyflwyno atebion ac argymell camau gweithredu i greu’r newid yma.
Yn yr un modd, rydw i’n sicr y bydd iechyd meddwl plant ar frig fy agenda ar hyd fy nghyfnod o 7 mlynedd yn y swydd. Rydw i eisoes yn clywed hanesion am amserau aros eithriadol o hir, a throsglwyddo pobl rhwng gwasanaethau i gael help. O ystyried y ffaith bod pawb ohonon ni wedi profi dwy flynedd o argyfwng byd-eang, a bod hynny wedi arwain ymlaen yn syth i argyfwng arall cenedlaethol a rhyngwladol, mae’n gyfnod brawychus i bawb, heb sôn am brofi hynny fel plentyn. Dyna pam rydw i’n hollol sicr na fu erioed yn bwysicach i Gomisiynydd Plant Cymru barhau i alw’r Llywodraeth i gyfri ynghylch y ddarpariaeth iechyd meddwl i blant; maen nhw wedi addo pethau mawr, nawr rydw i eisiau gweld canlyniadau cadarn. Ond mae angen i ni ddeall hefyd bwysigrwydd y ffactorau gwydnwch sy’n hanfodol i ddiogelu iechyd meddwl plant – mannau chwarae, cyfleusterau chwaraeon, llyfrgelloedd, a chanolfannau ieuenctid a chymuned.
Y Dyfodol
Rydw i’n credu’n angerddol mewn rhai pethau, ac mae gen i fy mhrofiadau bywyd fy hun. Rydw i’n cael fy sbarduno gan awydd i weld cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, ac rydw i am i Gymru fod yn lle llawer mwy cyfartal i blant erbyn i mi orffen fy nghyfnod yn swydd y Comisiynydd Plant.
Gwrando yw ffocws fy nghamau nesaf. Trwy ein prosiect Gobeithion i Gymru, bydd fy nhîm a minnau’n parhau i wrando ar filoedd o blant, pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol ym mhob cwr o Gymru yn ystod y misoedd nesaf.
Rydw i am glywed beth sy’n bwysig iddyn nhw, beth sy’n eu sbarduno, a beth yw eu gobeithion ar gyfer y wlad rydyn ni’n ei galw’n gartref.
Eu hatebion fydd y sylfaen ar gyfer gwaith fy nhîm yn y blynyddoedd sy’n dod, a’n glasbrint ar gyfer gwneud Cymru’n lle gwell i blant – pob un o’r 630,000 ohonyn nhw.
Peidiwch anghofio, os rydych chi angen cyngor neu gymorth gyda mater sy’n effeithio plentyn yng Nghymru, mae gennym ni wasanaeth cyngor am ddim i blant, eu teuluoedd, a gweithwyr proffesiynol.