Dychmygwch gymudo dyddiol. Mae’n dechrau’n gynnar, ac ar yr adeg hon o’r flwyddyn, o’r braidd mae’r haul wedi codi dros y gorwel. Mae goleuadau stryd ar rai palmentydd a llwybrau; ond nid ar bob un. Mae’n daith o sawl milltir, ac mae rhaid newid bws cyhoeddus mewn ardal drefol brysur. Efallai bod eich patrwm cymudo beunyddiol chithau rywbeth yn debyg. Ond nid oedolyn yn cymudo i’r gwaith sydd yma, ond plentyn 11 oed, yn cymudo i’r ysgol.
Nawr dychmygwch eich bod chi’n ddisgybl 14 oed mewn ysgol uwchradd. Rydych chi eisoes yn cael trafferth cynnal presenoldeb. Rydych chi’n byw ar aelwyd sy’n cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd. Allwch chi ddim fforddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae eich rhieni’n methu mynd â chi i’r ysgol, sydd ychydig o dan 3 milltir i ffwrdd. Mae canllawiau cyfredol y Llywodraeth i awdurdodau lleol yn dweud bydd angen i chi gerdded hyd at chwe milltir y dydd i gyrraedd yr ysgol ac yn ôl adre.
Mae’n gyffredin i’m tîm Ymchwiliadau a Chyngor glywed amrywiaeth o bryderon ynghylch hyn o wahanol rannau o Gymru. Rydyn ni wedi clywed am blant mewn ardaloedd gwledig yn aros ar eu pen eu hun, yn sefyll ar y glaswellt wrth ymyl y ffordd heb oleuadau stryd, yn aros i rywun eu casglu i fynd i’r ysgol. Efallai bod eraill yn cerdded ar hyd llwybrau neu trwy ardaloedd maen nhw’n teimlo eu bod yn anniogel ac yn anaddas. Mae’r cyfan yn rhan o ddarlun mwy yng Nghymru sy’n cynnwys profiadau anghyson a theithiau i’r ysgol nad ydynt bob amser yn addas.
Yng Nghymru, mae’r Mesur Teithio i Ddysgwyr (2008) yn nodi beth mae’n rhaid i awdurdodau lleol ei wneud er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn eu hardaloedd yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel. Mae’n nodi bod rhaid i awdurdodau lleol ddarparu trafnidiaeth am ddim o’r cartref i’r ysgol ar gyfer plant ysgol gynradd sy’n byw mwy na dwy filltir o’u hysgol agosaf addas; yn achos disgyblion uwchradd, y pellter yw 3 milltir. Mae rhaid i awdurdodau gynnal asesiad risg ar lwybrau cerdded i’r ysgol, gan gymryd ystod eang o amgylchiadau i ystyriaeth wrth benderfynu a yw llwybr yn addas neu beidio.
Mae gen i rai pryderon mawr am y system bresennol.
Yn gyntaf oll, mae bwlch difrifol yn nyletswydd awdurdodau lleol i gynnal asesiad risg o lwybrau. Mae asesiadau risg yn gyfreithiol ofynnol ar gyfer llwybrau teithio llesol mae plant yn eu defnyddio i gerdded yn uniongyrchol i’r ysgol, ond nid ar gyfer teithiau mae’n rhaid i blant eu gwneud o’u cartref i fan casglu i ddal bws ysgol. Yn achos y sefyllfa honno, nid yw’r canllawiau’n nodi unrhyw gyfrifoldebau ar gyfer sicrhau eu diogelwch, ac mae hynny’n arwain at bryderon a threfniadau anfoddhaol ar draws y wlad.
Mae rhai plant yn byw cryn bellter o’u man casglu. Beth am y rhai sydd heb fynediad at gar? Beth am y rhieni sy’n methu cerdded gyda’u plentyn bob dydd oherwydd eu horiau gwaith? Roedd teulu a gysylltodd â’m tîm Cyngor yn pryderu bod disgwyl i’w plentyn deithio 1.4 milltir o’u cartref i fan casglu ar lwybr oedd heb gael asesiad risg. Mae hynny’n agos at 3 milltir y dydd ar hyd llwybr nad yw’r cyngor yn gwybod ei fod yn ddiogel.
Mae fy swyddfa i wedi galw’n gyson ac yn rheolaidd am newidiadau i’r gyfraith ynghylch teithio gan ddysgwyr. Nid dim ond diogelwch a phellter rhai llwybrau teithio llesol sydd dan sylw, ond hefyd mynediad at drafnidiaeth am ddim ar gyfer addysg ôl-16, i ba raddau mae’r rheoliadau presennol yn darparu ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a pha mor effeithiol mae’r rheolau’n cefnogi materion cyfredol critigol fel presenoldeb yn yr ysgol.
Mae bron traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi, ac mae gan Gymru broblem sylweddol o ran cyfraddau presenoldeb yn yr ysgol, sy’n waeth ymhlith plant o’r aelwydydd incwm isaf. Amlygodd yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar iawn gan Estyn, ‘Gwella Presenoldeb mewn Ysgolion Uwchradd’ y gallai newid y rheolau teithio i ddysgwyr chwarae rhan allweddol i hybu presenoldeb disgyblion o aelwydydd incwm isel.
Mae anhawster yn codi hefyd i ddysgwyr mewn addysg ôl-16. Does dim dyletswydd gyfreithiol i ddarparu trafnidiaeth i bobl ifanc sydd ddim bellach yn oed ysgol gorfodol. Os cymerwch berson ifanc sy’n dewis astudio yn chweched dosbarth eu hysgol, er enghraifft, gallen nhw fynd o gael trafnidiaeth am ddim hyd at lefel TGAU i orfod talu’n sydyn am drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn parhau â’u haddysg, neu i fynd i’w dewis o ddarpariaeth Addysg Bellach. Eto, mae traean o bobl ifanc yn byw mewn tlodi yng Nghymru, a’r bobl ifanc hynny fydd yn dioddef os byddan nhw’n sydyn yn gorfod talu am docynnau bws a thrên bob dydd.
Gellid maddau i chi am dybio bod gwarant o drafnidiaeth am ddim i’r ysgol i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Ond dyw hynny ddim yn wir. A hynny er gwaethaf nodweddion penodol yn aml a allai olygu bod cerdded i’r ysgol neu ddal bws cyhoeddus yn anodd neu’n eu rhoi dan straen. Mae gan bob person ifanc hawl i gyflawni eu potensial, ac mae angen i’n system trafnidiaeth ysgol gefnogi hynny’n llawn.
Yn syml, mae’r darlun ar draws Cymru yn anghyson ac wedi dyddio, ac yn fwy na dim, nid yw’n cefnogi plant a phobl ifanc yn ddigon da i gael mynediad i’w haddysg a chyrraedd eu llawn botensial.
Dair blynedd yn ôl cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad interim o ddeddfwriaeth gyfredol 2008. Roedd yn cydnabod llu o faterion sy’n llawer rhy gyfarwydd i’m swyddfa, llawer ohonynt yn cyfeirio at ddarpariaeth anghyson ar draws Cymru a phrofiadau anghyson i blant. Dywedwyd bod gweinidogion wedi ymrwymo i adolygu teithio i ddysgwyr, gan nodi nad yw “opsiwn ‘gwneud dim’ yn cael ei ystyried yn briodol”, a’r casgliad oedd bod y gwaith interim yn “cyfiawnhau adolygiad trylwyr o’r Mesur” i atal “rhagor o anghydraddoldeb, anghysondeb yn y ddarpariaeth a mwy o godau a chanllawiau sydd wedi dyddio”.
Ond, yn 2024, mae’r anghydraddoldeb a’r anghysondeb a fu mor amlwg ym mhrofiadau teithio plant a phobl ifanc am gymaint o amser yn dal yn bendant gyda ni.