Mae ein holiaduron ar gau.
Beth byddwn ni’n gwneud gyda’ch atebion
Bydd eich atebion yn ein helpu i ddeall bywydau a phrofiadau plant, ac i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth sydd angen iddyn nhw wneud i wella bywydau plant.
Blwyddyn nesaf, byddwn ni’n cyhoeddi cynllun gwaith ar sail yr atebion i’n holiadur. Bydd hyn yn dangos y gwaith rydyn ni’n bwriadu gwneud fel swyddfa i ddylanwadu newidiadau positif i blant.
Am y Comisiynydd
Rocio Cifuentes yw’r Comisiynydd Plant.
Mae ein swyddfa yn hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru. Mae gan bob plentyn dan 18 hawliau sy’n rhan o Gonfenswin y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Rydyn ni’n annibynnol, a ddim yn rhan o’r Llywodraeth.
Rydyn ni’n gweithio i bob plentyn sydd:
- o dan 18 mlwydd oed
- neu hyd at 21 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal, neu hyd at 25 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal a dal yn astudio
Hysbysiad Preifatrwydd
Lawrlwythwch ein hysbysiad preifatrwydd (Agor fel PDF)
Os rydych chi angen cyngor
- wedi ei drin yn anheg
- ddim yn derbyn ei hawliau