Rydym wedi rhoi gwybodaeth isod am rai o’n safbwyntiau polisi ar faterion allweddol.
Tlodi Plant
Faint o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru? Mae tua 30% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. […]
Hiliaeth mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru
Profiadau plant a phobl ifanc o hiliaeth mewn ysgolion uwchradd, a galwadau y Comisiynydd ar y pwnc yma.
Iechyd Meddwl
O dan erthygl 24 o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn, mae gan bob plentyn hawl i’r safonau gofal iechyd gorau posib, ac i gael mynediad at gyfleusterau ar gyfer trin salwch ac ailsefydlu. Bydd y dudalen hon yn cyflwyno’r her sy’n ein hwynebu, a rhai o’r materion penodol sy’n gysylltiedig â chefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc, fel rwyf fi’n gweld pethau. Bydd hefyd yn rhannu rhai rhesymau i fod yn obeithiol.
Fêpio
Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i’r iechyd gorau posib, o dan Erthygl 24 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Dros gyfnod o sawl blwyddyn, ac yn gynyddol ers y pandemig, rydyn ni wedi bod yn clywed pryderon ynghylch rhywbeth a allai olygu bod risg niwed hirdymor i blant a phobl ifanc – y defnydd o e-sigarets/fêpiau.
Gordewdra / Pwysau Iach
Beth sydd angen ei wneud er mwyn mynd i'r afael ag ordewdra plant yng Nghymru? Rydyn ni'n ystyried y data diweddaraf ac yn pwysleisio pwysigrwydd ystyried gordewdra plant fel arwydd o benderfynyddion iechyd ehangach, gan gynnwys amddifadedd, a sicrhau bod mesurau'n mynd i'r afael â'r rhain yn gyfannol.
Addysg yn y Cartref
Safbwynt y Comisiynydd ar bolisi sy'n effeithio ar blant sydd wedi eu haddysgu yn y cartref
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE)
Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn rhan o’r cwricwlwm newydd yng Nghymru, ac mae’n rhaid i ysgolion yng Nghymru ddysgu […]