Teithio i Ddysgwyr

Beth yw’r broblem?

“Rydw i’n teimlo’n bod ni, y bobl ifanc, yn cael ein gadael lawr. Mae gynnon ni hawl i addysg am ddim, ond rydyn ni’n gweld y rhwystr yma, pris tocyn bws, yn atal ni rhag cael mynediad i’r addysg honno”.

Dyfyniad yw hwn gan berson ifanc, ym mis Mawrth 2025, ynghylch yr anawsterau mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth gyrraedd yr ysgol bob dydd i gael mynediad i’w haddysg.

Mae gan blant ysgol gynradd hawl gyfreithiol i drafnidiaeth am ddim os oes rhaid iddyn nhw gerdded mwy na dwy filltir o’u cartref i’r ysgol, ac yn achos disgyblion uwchradd, tair milltir yw’r trothwy.

Yn ffodus, mae awdurdodau lleol yn hanesyddol wedi bod yn fwy hael na’r isafswm cyfreithiol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda llawer yn gostwng terfynau milltiredd lleol er mwyn cefnogi pobl ifanc yn ddigonol.

Fodd bynnag, wrth i gyllidebau gael eu cywasgu fwyfwy, mae mwy o gynghorau’n dewis cadw at yr isafswm cyfreithiol gofynnol ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn ymarferol mae hynny’n golygu bod rhai plant yn cerdded hyd at chwe milltir y dydd, yn cychwyn am yr ysgol am 6.30am ym mhob tywydd, ac weithiau’n dilyn llwybrau mae teuluoedd yn barnu sydd yn anniogel ac yn anaddas. Rydyn ni wedi clywed am achosion o blant yn gorfod cerdded ar draws tir comin lle mae ceffylau gwyllt, lawr lonydd ochr, ac ar hyd llwybrau camlas heb olau na gwelededd.

Hyd yn oed pan fydd gan blant hawl i drafnidiaeth ysgol am ddim, rydyn ni’n clywed trwy ein gwasanaeth Cyngor a Chymorth Hawliau Plant annibynnol am blant yn gorfod cerdded yn bell i gyrraedd pwyntiau casglu, gan gynnwys ar hyd ymylon glaswellt cul wrth ochr ffyrdd categori A prysur.

Mewn cyd-destun ariannol sy’n heriol yn barhaus, mae llawer o rieni nad yw eu plant yn gymwys i dderbyn trafnidiaeth am ddim yn gorfod dewis rhwng talu am docyn bws neu frecwast, dim ond i sicrhau bod eu plentyn yn cyrraedd eu haddysg.

Ac eto does dim consesiynau, hyd yn oed pan fydd plant yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim; rydyn ni wedi clywed am blant o’r fath yn gorfod talu £3.80 y dydd i gyrraedd yr ysgol, ac yn cyrraedd pwynt tua diwedd yr wythnos lle nad yw bellach yn fforddiadwy cyrraedd yr ysgol, sy’n golygu bod y plentyn yna ddim yn cael pryd poeth am ddim chwaith y diwrnod hwnnw.

Beth sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r pryderon hyn?

Mae ein swyddfa wedi galw ers blynyddoedd lawer ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli teithio gan ddysgwyr.

Adroddiad interim

Yn 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad interim o’r trefniadau teithio gan ddysgwyr, a dod i’r casgliad ‘nad oedd modd’ gadael y sefyllfa fel yr oedd. Dywedwyd bod angen gwneud mwy o waith ar hyn, gan gynnwys edrych ar y trothwyon milltiredd gydag awdurdodau lleol.

Ond daeth y mwyafrif o’r safbwyntiau a ffurfiodd yr adroddiad terfynol o ymgysylltu ag awdurdodau lleol, yn hytrach na chynnwys rhanddeiliaid oedd yn teimlo effaith hyn, gan gynnwys plant a’u teuluoedd.

Adroddiad terfynol

Roedd adroddiad terfynol yr adolygiad, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2024, yn nodi y bydd trafnidiaeth ysgol, lle bynnag y bo modd, yn cael ei gynnwys yn amserlenni rheolaidd gwasanaethau bws, gyda Bil newydd i roi sylw i faterion masnachfreintiau yn y cyswllt hwn. Nodwyd na fyddai adolygiad llawn o’r ddeddfwriaeth, er bod hynny wedi’i gydnabod fel cam angenrheidiol yn flaenorol, ac nid yw’r gwaith a gynlluniwyd ar gyfer mân ddiweddariadau i’r canllawiau a’r codau ymddygiad teithio wedi dod gerbron ar gyfer ymgynghori eto (ar adeg ysgrifennu, ym mis Mawrth 2025).

Nid yw’r Bil Bysiau wedi dod gerbron eto, ond hyd yn oed pan ddaw, bydd angen amser i’w gyflwyno a’i weithredu. Ni fydd hynny’n helpu plant yn y cyfnod presennol sydd weithiau’n wynebu costau teithio i’r ysgol sy’n boenus o ddrud. Mewn rhai ardaloedd, ni ellir defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddatrys teithio gan ddysgwyr chwaith, oherwydd diffyg gwasanaeth/cwmpas cyffredinol.

Ein barn ar yr adolygiadau

Gwaetha’r modd, mae’r adolygiadau hyn wedi bod yn gwbl annigonol o safbwynt hawliau plant, ac wedi methu â rhoi sylw i’r materion hysbys ynghylch trafnidiaeth ysgol. Heb weithredu clir gan Lywodraeth Cymru, bydd mwy a mwy o bobl ifanc yn cyrraedd yr ysgol yn oer, yn wlyb ac yn flinedig, a fydd rhai ddim yn cyrraedd o gwbl.

Beth hoffen ni weld gan Lywodraeth Cymru?

Mae pwysau costau byw yn dal i gael effaith andwyol ar deuluoedd ledled Cymru.

Er gwaethaf llawer o ffws ynghylch hynny, ni fydd y cyhoeddiad diweddar ynghylch tocynnau bws am £1 i rai o dan 21 oed yn helpu gyda theithiau dysgwyr, gan fod y cynllun hwn wedi’i fwriadu i gefnogi pobl ifanc 16-21 oed yn unig.

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn cynnal Uwchgynhadledd Teithio gan Ddysgwyr; dyma rai materion mae angen eu cymryd i ystyriaeth yn y camau nesaf:

  • Ystyried sut mae modd gostwng trothwyon milltiredd; beth yw union gostau a manteision gwahanol drothwyon?;
  • Adolygu cyfrifoldebau awdurdodau lleol o ran asesu risg llwybrau cerdded at bwyntiau casglu trafnidiaeth;
  • Archwilio sut mae’r trefniadau presennol yn effeithio’n arbennig ar rai grwpiau o blant, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i blant ag anableddau, y rhai sy’n mynychu addysg Gymraeg, a’r rhai sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim

Heb roi ystyriaeth ddigonol i’r materion hyn a gweithredu’n glir yn eu cylch, mae Llywodraeth Cymru yn methu ystyried yn briodol a rhoi mwy o sylw i anghenion sylfaenol plant a’u hawliau dynol yn y maes polisi hwn, ac mae’n hen bryd gweld newid sylfaenol.