Adnoddau a Chynlluniau Gwers
Cynllun gwers Hygyrch Fi yw Fi
Cynllun gwers Cyfnod Sylfaen Fi yw Fi
Ystrydebau
Rydym wedi gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc ar ein prosiect ‘Fi yw Fi’ er mwyn taclo ystrydebau (stereoteipiau).
Gofynwyd i bobl ifanc creu fideos yn siarad am eu profiadau sy’n cael ei ddefnyddio fel rhan o’r cynllun gwers yn ein hadnodd.
Gwyliwch y fideos, wedyn, creuwch rhywbeth eich hun sy’n cynrychioli neu ddathlu eich hunaniaeth. Gallwch naill ai weithio yn unigol neu fel grŵp/dosbarth.
Gallwch fod mor greadigol ag yr hoffech chi.
Mae rhai syniadau yn yr adnodd a allai eich helpu chi.
Rydyn ni’n gwybod mai dim ond hunaniaethau rhai grwpiau o bobl ifanc sydd i’w gweld yn ein fideos ni.
Rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n gallu dathlu hunaniaethau llawer o blant a phobl ifanc gwahanol ar draws Cymru. Mae’n bosib y bydd ganddo’ch chi sawl peth rydych chi’n ei ystyried fel rhan o’ch hunaniaeth, ac mae’n bosib y byddwch chi’n dymuno eu cynrychioli nhw i gyd yn yr hyn fyddwch chi’n ei greu.
Eich fideos
Gan ‘Mixtup’ yn Abertawe
Gan Ofalwyr Ifanc Barnardo’s Cymru
Cyngor Ieuenctid Pobl Ifanc mewn gofal Castell Nedd-Port Talbot – YoVo
Into Film Cymru – I’m The One
Mae Into Film Cymru wedi creu adnodd arbennig i gyd-fynd a’r ffilm fer a ennillodd wobr ‘Ffilm Orau’ Gwobrau Into Film 2020, “I’m the One” gan Eden o Bowys. Datblygwyd yr adnodd yma mewn partneriaeth rhwng Into Film Cymru, Kidscape ac Eden er mwyn rhoi’r cyfle i archwilio rhai o brif themau’r ffilm, sef, iechyd meddwl, gwrth-fwlio, rhagfarn a derbyn. Cliciwch y linc isod i fynd i wefan Into Film Cymru i ddysgu mwy am y ffilm a’r adnodd.