lawrlwythwch pob adnodd ar y dudalen hon – PDF
GWEITHGAREDDAU I BAWB
Gweithgareddau neu wybodaeth sy’n cynnwys llai o destun a mwy o strwythur.
Mae llawer o’r gweithgareddau hyn yn cynnwys symbolau i helpu cyfathrebu.
Gall y gweithgareddau yma fod yn addas i blant mewn ysgolion cynradd neu grwpiau cymunedol.
Mae’r gweithgareddau wedi’u llunio hefyd i roi rhywfaint o strwythur i gynnal dysgwyr hŷn, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i rai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd hyn yn helpu cynghorau ysgol a grwpiau cyfranogiad cymunedol eraill.
Geiriau allweddol
Mae hwn yn esbonio rhai o’r geiriau allweddol rydyn ni’n eu defnyddio yn yr adnodd yma.
Lawrlwythwch PDF Geiriau allweddol
Pwy sy’n gwneud penderfyniadau?
Mae’n gallu bod yn anodd i wybod pwy i gysylltu gyda nhw i greu newid.
Bydd yr adnodd yma yn eich helpu chi.
Lawrlwythwch PDF pwy sy’n gwneud penderfyniadau?
GWEITHGAREDDAU ESTYNEDIG
Mae rhain yn defnyddio mwy o destun, ac yn cynnwys mwy o wybodaeth fanwl a llai o strwythur cynnal ar gyfer gweithgareddau.
Efallai bydd yr adnoddau yma’n addas ar gyfer pobl ifanc mewn lleoliadau ysgol uwchradd, lleoliadau Addysg Bellach, neu grwpiau cyfranogiad a grwpiau cymunedol i bobl ifanc.
Byddan nhw’n helpu cynghorau ysgol uwchradd a grwpiau eraill llais y disgybl mewn ysgolion uwchradd.
Cyrraedd y ffeithiau
Mae’n gallu bod yn anodd gwybod sut mae cael yr wybodaeth gywir am beth sy’n digwydd yn y byd. Mae gwahanol safbwyntiau, penawdau camarweiniol a storïau newyddion ffug, yn ogystal â chyfrifon sydd dan reolaeth troliau a botiau.
Dyma rai awgrymiadau gwych ar gyfer cael hyd i ffordd trwy’r holl wybodaeth yma, fel eich bod chi’n gallu cyrraedd y ffeithiau!
Lawrlwythwch PDF Cyrraedd y ffeithiau
Pwy sy’n gwneud penderfyniadau?
Mae’n gallu bod yn anodd i wybod pwy i gysylltu gyda nhw i greu newid.
Bydd yr adnodd yma yn eich helpu chi.
Lawrlwythwch PDF pwy sy’n gwneud penderfyniadau?
Fideos i’ch ysbrydoli