Lawrlwythwch pob adnodd ar y dudalen yma – PDF
GWEITHGAREDDAU I BAWB
Gweithgareddau neu wybodaeth sy’n cynnwys llai o destun a mwy o strwythur.
Mae llawer o’r gweithgareddau hyn yn cynnwys symbolau i helpu cyfathrebu.
Gall y gweithgareddau yma fod yn addas i blant mewn ysgolion cynradd neu grwpiau cymunedol.
Mae’r gweithgareddau wedi’u llunio hefyd i roi rhywfaint o strwythur i gynnal dysgwyr hŷn, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i rai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd hyn yn helpu cynghorau ysgol a grwpiau cyfranogiad cymunedol eraill.
Creu grwp
Dewch at eich gilydd.
Mae’n golygu bod gennych chi lais mwy cryf a bod chi’n gallu helpu eich gilydd.
Cardiau Gweithgareddau
Defnyddiwch y cardiau yma i ddewis gweithgaredd.
Lawrlwytho PDF cardiau gweithgareddau
Ar ôl i chi weithio gyda’ch gilydd
GWEITHGAREDDAU ESTYNEDIG
Mae rhain yn defnyddio mwy o destun, ac yn cynnwys mwy o wybodaeth fanwl a llai o strwythur cynnal ar gyfer gweithgareddau.
Efallai bydd yr adnoddau yma’n addas ar gyfer pobl ifanc mewn lleoliadau ysgol uwchradd, lleoliadau Addysg Bellach, neu grwpiau cyfranogiad a grwpiau cymunedol i bobl ifanc.
Byddan nhw’n helpu cynghorau ysgol uwchradd a grwpiau eraill llais y disgybl mewn ysgolion uwchradd.
Creu hunaniaeth grwp
Mae’r gweithgaredd yma’n eich helpu i greu enw a hunaniaeth i’ch grwp.
Lawrlwythwch PDF creu hunaniaeth grwp
Gwirio Lles
Defnyddiwch y rhestr yma ar ddechrau cyfarfodydd neu cyn i chi gychwyn ar y gweithgareddau ymgyrchu.
Bydd e’n eich helpu i gefnogi eich gilydd.