Cefndir
Rydyn ni eisiau i bob person ifanc yng Nghymru wybod am eu hawliau, a phrofi eu hawliau.
Mae hawliau gan bob person ifanc. Maen nhw wedi’u hysgrifennu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae un o’r hawliau’n dweud y dylai pob person ifanc gael lleisio barn ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Mae hynny’n golygu bod angen i bob person ifanc gael cyfle i rannu eu barn a chael gwrandawiad.
Yng Nghymru, mae’n rhaid bod cyngor ysgol ym mhob ysgol uwchradd. Dyma un o’r ffyrdd y gall pobl ifanc leisio barn ar beth sy’n digwydd yn yr ysgol.
Beth wnaethon ni a pham?
Yn 2018 fe ofynnon ni i bron 7000 o blant a phobl ifanc ddweud wrthyn ni oedden nhw’n teimlo eu bod nhw’n derbyn eu holl hawliau.
Un o’r pethau ddysgon ni oedd bod plant mewn ysgolion cynradd, ac ysgolion arbennig, yn teimlo’n fwy abl i roi eu barn yn yr ysgol na phobl ifanc mewn ysgolion uwchradd.
Penderfynodd ein tîm, a’n panel ymgynghorol pobl ifanc, ei fod yn bwysig darganfod beth allai wneud i fwy o bobl ifanc deimlo eu bod yn cael rhoi barn yn yr ysgol uwchradd.
Fe wnaethon ni hynny trwy gynnal mwy o arolygon a chyfarfodydd gyda disgyblion, athrawon, a llywodraethwyr, a grwpiau eraill ar draws Cymru.
Adroddiadau (PDF i gyd)
GYDA’N GILYDD – Adroddiad llawn
GYDA’N GILYDD – Adroddiad pobl ifanc
GYDA’N GILYDD – Fersiwn hawdd i’w ddarllen gyda symbolau
Adnoddau
Awgrymiadau ar gyfer creu cyngor ysgol gwych, gan bobl ifanc (PDF)
Awgrymiadau Gwych – Fersiwn hawdd i’w ddarllen gyda symbolau (PDF)
Cyfranogiad – Sut? Beth? Pam? Canllaw ar gyfer athrawon (Word)
Gwneud Gwahaniaeth – Canllaw i helpu pobl ifanc creu newid
Astudiaethau Achos
Mae ein hadroddidau ac adnoddau yn cynnwys esiamplau o waith arbennig gan gynghorau ysgol ar draws Cymru.
Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi creu fideo gydag Ysgol Uwchradd Cowbridge, i esbonio mwy am y gwaith maen nhw wedi ei wneud.
Rydyn ni hefyd yn falch i rannu y fideo yma gan Leisiau Bach, sydd wedi gweithio gydag Ysgol Arbennig Crownbridge i ddangos sut mae ei chyngor ysgol yn codi ymwybyddiaeth ynglyn â rhai o’r materion sy’n bwysig iddyn nhw.
Ysgol Uwchradd Cowbridge
Ysgol Arbennig Crownbridge