Beth yw addysg hawliau dynol?
Thema drawsbynciol yn ein cwricwlwm newydd yng Nghymru yw addysg hawliau dynol. Mae addysg hawliau dynol yn golygu bod oedolion a phlant yn:
- dysgu am hawliau plant
- dysgu trwy hawliau plant
- dysgu er mwyn defnyddio hawliau plant
Mae hyn yn golygu bod plant ac oedolion yn gwybod ac yn deall eu hawliau dynol, yn profi eu hawliau dynol o fewn eu haddysg, ac yn cael eu grymuso â’r sgiliau i bleidio dros eu hawliau nhw a hawliau pobl eraill.
Sut maw hawliau plant yn cyd-fynd â’r cwricwlwm?
Mae datblygu dealltwriaeth o hawliau wedi cael ei integreiddio yn nisgrifiadau Meysydd Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau ac Iechyd, ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
Mae anghenion ehangach y cwricwlwm yn gosod addysg hawliau dynol fel thema drawsbynciol, ac yn nodi sut dylai dysgwyr profi eu hawliau cyfranogol mewn dylunio’r cwricwlwm mewn ffordd ystyrlon.
Mae’n bwysig i nodi bod hawliau dynol plant ar wyneb y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, sy’n dweud bod angen i bob aelod o staff sydd â rôl mewn cyflawni nodau’r cwricwlwm i ddatblygu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau dynol plant o dan ddau gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig:
– Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP/UNCRC)
– Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CCUHPA/UNCRPD)
Mae’r CCUHP yn cyflwyno hawliau dynol plant. Mae’r CCUHPA yn cyflwyno beth mae hawliau yn eu golygu i bobl gydag anableddau, yn cynnwys plant gydag anableddau. Mae’r ddau gonfensiwn yma hefyd yn hanfodol i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Bydd ein hadnoddau a chanllaw yn helpu arweinwyr a staff addysg i gyflawni’r nodau yma:
Darllenwch Fap Hawliau’r Cwricwlwm