Cartrefi Plant a Phobl Ifanc – Holiadur Ciplun o Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru
Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma
Cyflwyniad
Yn ystod mis Ionawr 2025 buon ni’n gofyn barn plant a phobl ifanc am eu cartrefi.
Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau. Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.
Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoswyd fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau fel pa fath o gartref sydd gyda nhw, beth mae nhw’n hoffi am eu cartref, beth fydden nhw’n newid a beth sy’n gwneud cartref da. Yn yr amlinelliad ar gyfer y sesiwn, roedden ni’n awgrymu, ar ôl gweld y fideo, y dylai plant a phobl ifanc gael amser i drafod eu barn gyda’i gilydd cyn ateb yr holiadur. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.
Atebodd 724 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol. Bu 626 o blant eraill yn cymryd rhan mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 5 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 20 awdurdod lleol.
Datblygwyd y cwestiynau gan dîm staff profiadol y Comisiynydd ar sail themâu oedd wedi dod i’r amlwg mewn ymarferion ymgysylltu blaenorol gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
Cwestiynau i’r plant a bobl ifanc
Pa fath o dŷ wyt ti’n byw ynddo? Mae yna luniau i dy helpu.
Tŷ pâr (288) – 42%
Tŷ sengl (175) – 26%
Tŷ teras (173) – 25%
Byngalow (22) – 3%
Fflat (14) – 2%
B&B (9) – 1%
Beth wyt ti’n hoffi am dy gartref?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Ystafell wely / gwely
- Lle cysurus / cyfforddus
- Fy nheulu
Beth fyset ti’n newid am dy gartref?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Ddim eisiau newid dim byd
- Maint y tŷ / nifer o ystafelloedd
- Maint yr ystafell wely
Ble yn dy gartref wyt ti’n ymlacio neu chwarae? Mae hawl dewis mwy nag un ateb.
Ystafell wely (620) – 90%
Ystafell fyw (443) – 64%
Gardd (227) – 33%
Ystafell chwarae/astudio (150) – 22%
Cegin (116) – 17%
Rhywle arall (40) – 6%
Balconi (26) – 4%
Mae’n well gen i beidio dweud (9) – 1%
Does gen i ddim lle i ymlacio neu chwarae adref (3) – 0%
Ble arall wyt ti’n ymlacio neu chwarae? Ydy hwn yn lle da i ymlacio a chwarae?
Roedd y nifer uchaf o ymatebion yn ymwneud â’r:
- Ystafell wely
- Ystafelly wely eu rhieni
- Ystafelly fwyta / bwrdd bwyd
- Ardd
Yna gofynwyd cwestiwn ychwanegol iddynt:
Pam?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Lle ymlaciedig / digyffro
- Lle tawel / preifat / personol
- Lle cyfforddus / clyd
Ble yn dy gartref wyt ti’n gwneud dy waith cartref/gwaith ysgol? Mae hawl dewis mwy nag un ateb.
Ystafell wely (432) – 62%
Ystafell fyw (327) – 47%
Cegin (190) – 27%
Ystafell chwarae/astudio (77) – 11%
Rhywle arall (41) – 6%
Mae’n well gen i beidio dweud (28) – 4%
Does dim lle gen i wneud gwaith cartref/gwaith ysgol (9) – 1%
Ble arall wyt ti’n gwneud dy waith cartref/gwaith ysgol? Ydy hwn yn lle da i wneud gwaith cartref/gwaith ysgol?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Yn yr ystafell fwyta
- Ar y bwrdd
- Yn yr ystafell fyw
Yna gofynwyd cwestiwn ychwanegol iddynt:
Pam?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Mae’n le tawel ac heddychlon
- Mae ganddynt ddesg a chadair
- Gall aelodau o’r teulu helpu
Beth sy’n agos i dy gartref? Rydyn ni’n golygu rhywbeth sydd ddim yn rhy bell i gerdded iddo fe, neu sydd ddim yn cymryd hir yn y car neu ar y bws/trên.
Parc chwarae (512) – 74%
Siopau (481) – 70%
Yr ysgol (435) – 63%
Caeau chwarae (388) – 56%
Gorsaf bws (388) – 56%
Llyfrgell (203) – 30%
Canolfan hamdden (184) – 27%
Doctor (152) – 22%
Clybiau eraill (142) – 21%
Clwb ieuenctid (118) – 17%
Gorsaf trên (116) – 17%
Canolfan cymunedol (111) – 16%
Pan rwyt ti’n hŷn, wyt ti eisiau byw yn yr un ardal rwyt ti’n byw ynddi nawr?
Ydw (216) – 31%
Efallai (179) – 26%
Nac ydw (168) – 24%
Dwi ddim yn gwybod (125) – 18%
Yna gofynwyd cwestiwn ychwanegol iddynt:
Pam?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Hoffi’r ardal/cartref a byw’n agos at deulu a ffrindiau
- Eisiau byw mewn ardal wahanol
Beth sy’n gwneud cartref da?
Roedd y nifer uchaf o ymatebion yn ymwneud â:
- Theulu / gofal a chariad
- Theimlo’n ddiogel
- Theimlo’n gysurus
Cwestiynau i athrawon
Beth oedd y grwp yn hoffi am eu cartrefi? Beth oedden nhw eisiau newid?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Roedden nhw eisiau mwy o le / mwy o ystafelloedd / tŷ mwy
- Yn teimlo’n ddiogel / yn ymlaciedig
- Bod eu tŷ yn gynnes ac yn lân
I ba raddau oedd y grwp yn meddwl bod eu cartrefi yn llefydd da i ymlacio a chwarae?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Roeddent yn teimlo’n hapus ac ymlaciedig
- Mae’r tŷ’n swnllyd / brodyr a chwiorydd swnllyd
- Maent yn cytuno bod eu cartref yn lle da iddynt i ymlacio a chwarae
I ba raddau oedd y grwp yn meddwl bod eu cartrefi yn llefydd da i wneud gwaith cartref/gwaith ysgol?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Maent yn cytuno bod eu cartref yn lle da i wneud eu gwaith ysgol/cartref
- Mae gormod o sŵn
- Mae ganddynt ddigon o le i wneud eu gwaith cartref
Diweddglo
Rydym wedi defnyddio’r data o’r holiadur hwn i ffurfio rhan o’n hymchwil ar gyfer prosiect ar dai.
Mae’r adroddiad yn crynhoi profiadau tai a’r angen i gynnwys lleisiau plant o dan 16 oed, gan gynnwys yr angen i wahanu lleisiau plant o un uned deuluol.
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan: