Diweddariad ar Argymhellion Adroddiad Blynyddol – Hydref 2024
Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma
Bob blwyddyn, trwy fy adroddiad blynyddol, rwy’n cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch y materion polisi allweddol lle hoffwn i weld gweithredu yn ystod y 12 mis sy’n dilyn. Yn ystod y flwyddyn bydda i’n mynd ar ôl yr argymhellion hyn trwy gyfarfodydd gyda Gweinidogion, swyddogion arweiniol, a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys plant a phobl ifanc.
Rwyf wedi rhoi gradd Coch / Ambr / Gwyrdd i bob argymhelliad er mwyn mesur y cynnydd yn erbyn yr hyn yr wyf wedi galw amdano. Fy asesiad fy hun yw lliw’r radd, ar sail ymgysylltiad â’r holl randdeiliaid allweddol. Mae’n bwysig nodi nad yw’r radd yn asesu a yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r argymhelliad neu beidio. Mae lliw’r radd yn adlewyrchu a fu unrhyw newidiadau polisi ac ymarfer sy’n gwella bywydau plant yng Nghymru ac yn rhoi amddiffyniad pellach iddyn nhw fwynhau eu hawliau o dan CCUHP.
Am y tro cyntaf, ni nododd Llywodraeth Cymru yn eu hymateb ffurfiol i’m hadroddiad blynyddol ar gyfer 2022-23 a oedden nhw’n derbyn fy argymhellion neu beidio. O ganlyniad, rwyf wedi gorfod dehongli eu hymatebion ac unrhyw gamau gweithredu dilynol drosof fy hun, gan farnu yn ôl y safonau canlynol:
Coch – Dim tystiolaeth o newidiadau polisi nac ymarfer ers cyflwyno’r argymhelliad. Dim gwelliant ym mhrofiadau plant.
Ambr – Peth tystiolaeth o newid polisi neu ymarfer, ond nid yw’r argymhelliad wedi’i gyflawni’n llawn yn llwyddiannus eto.
Gwyrdd – Argymhelliad wedi’i roi ar waith a gwahaniaethau amlwg ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaeth neu gymorth.
Tlodi
Argymhellion
Rhaid i Lywodraeth Cymru greu cynllun gweithredu ar dlodi plant, ochr yn ochr â fframwaith monitro clir â thargedau amser-benodol, mesuradwy, a threfniadau atebolrwydd cadarn, fel bod modd cael mewnbwn sensitif gan blant a phobl ifanc.
Rhaid cyhoeddi hyn yn nhymor Senedd 2023/24.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Yn y bôn mae’r argymhelliad hwn wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd y strategaeth tlodi plant ddiwygiedig ym mis Ionawr 2024, ond nid yw’n cynnwys cynllun gweithredu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu fframwaith monitro newydd, a byddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos â nhw ar hynny.
Bydd y fframwaith monitro yn cael ei gyhoeddi yn ystod hydref 2024. Bydd yr adroddiad cyntaf sy’n cynnwys yr INDICATORS a mesurau yma yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2025.
Argyfwng yr hinsawdd
Argymhellion
Er mwyn rhoi sylw i dlodi plant ac argyfwng yr hinsawdd, dylai’r cynllun gweithredu ar dlodi plant gynnwys ymrwymiad i beilot trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i blant a phobl ifanc o dan 18 oed yn y tymor Senedd hwn.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Coch
Sylwadau
Mae’r argymhelliad hwn wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi gwrthod prif argymhelliad adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y mater yma, FREEDOM TO THRIVE.
Iechyd meddwl a llesiant
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu hadlewyrchu’n glir ac yn derbyn sylw yn eu Strategaeth newydd Iechyd Meddwl, a bod argymhellion o adroddiad y Senedd Ieuenctid, Meddyliau Iau o Bwys, yn cael eu hadlewyrchu yn y strategaeth hon.
Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi diweddariad yn ystod 2023/4 ar eu cynnydd yn erbyn argymhellion y Senedd Ieuenctid yn eu hadroddiad Meddyliau Iau o Bwys.
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gweithrediad y Fframwaith Dull Gweithredu Ysgol Gyfan yn cael ei fonitro’n fanwl i sicrhau ei fod yn cyflawni’r nodau a fwriadwyd, yn rhoi sylw i anghenion y rhai â nodweddion gwarchodedig, ac yn ymateb i dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ynghylch iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â phlant a phobl ifanc wrth ddatblygu’r strategaeth iechyd meddwl newydd ddrafft, trwy ragymgynghoriad ar y datganiadau drafft ar gyfer y weledigaeth a’r egwyddorion cynnal mewn arolwg ar-lein. Fodd bynnag, o blith y 250 o ymatebion, maen nhw’n methu dangos faint o’r ymatebwyr sy’n blant neu’n bobl ifanc.
Bu’r llywodraeth hefyd yn ymgynghori ar y strategaeth ddrafft trwy ymgysylltu â’r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol, a gynhaliodd grŵp ffocws ar y strategaeth ddrafft yn haf 2023. Cynhaliwyd gweithdai ychwanegol yn hydref 2023 gyda’r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol a Senedd Ieuenctid Cymru.
Bu’r Llywodraeth yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod ymgynghori ar y Strategaeth ddrafft, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru. Roedd hi’n cynnwys grwpiau ffocws a chefnogi eraill i gynnal eu sesiynau ymgynghori eu hunain gyda’r plant a’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw.
Roedd fersiwn pobl ifanc o’r ymgynghoriad ar gael hefyd, i blant unigol ei llenwi, neu i helpu mewn sesiynau grŵp. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cynhyrchu Asesiad Effaith manwl o safon ar Hawliau Plant (CRIA), a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r dogfennau ymgynghori.
Er bod y strategaeth yn trafod materion sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc, a bod adrannau yr ydym yn eu croesawu, rydyn ni’n pryderu y gallai anghenion penodol plant a phobl ifanc fynd ‘ar goll’ o fewn strategaeth pob oed. Bydd Cynlluniau Cyflawni yn cael eu cynhyrchu yn y misoedd nesaf. Rhaid i’r rhain gynnwys camau gweithredu penodol sy’n berthnasol i wasanaethau plant a phobl ifanc, yn ogystal â chamau gweithredu i wella’r pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Yn yr Asesiad Effaith mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod “Adroddiad Meddyliau Iau o Bwys Senedd Ieuenctid Cymru wedi cael ei ddefnyddio’n dystiolaeth sylfaenol wrth ddrafftio’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant”.
Rydyn ni’n deall nad oes cynlluniau gan Lywodraeth Cymru i roi diweddariad ffurfiol ar eu cynnydd yn erbyn yr argymhellion hyn. Cyfarfu’r Comisiynydd â’r Dirprwy Weinidog ym mis Ionawr 2024 ac awgrymu y gellid mynd ati i olrhain cynnydd yn erbyn yr argymhellion er mwyn cynorthwyo atebolrwydd. Ar adeg ysgrifennu hwn nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gamau fyddai’n rhoi sylw i’r argymhelliad hwn.
Mae dau werthusiad o’r dull gweithredu ysgol gyfan ar y gweill.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal adolygiad sy’n edrych ar ddefnydd o’u hadnoddau (megis offer hunanasesu, cydlynwyr rhanbarthol). Mae ganddyn nhw ddangosfwrdd sy’n olrhain cynnydd mewn ysgolion. Mae hyn i’w groesawu.
Bu ymdrechion i gynnwys plant a phobl ifanc yn y gwaith hwn ar lefel genedlaethol trwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ar lefel yr ysgol unigol ymddengys nad yw’n arbennig o glir sut mae plant a phobl ifanc yn rhan uniongyrchol o greu cynlluniau ysgol unigol. Dylai fod ffocws ar hyn mewn gwerthusiadau. Mae DECIPHer a Chanolfan Wolfson hefyd yn cynnal gwerthusiad.
Mae ganddyn nhw ffocws ehangach na Iechyd Cyhoeddus Cymru – o ran gweithredu’r fframwaith mewn ystyr ehangach. Ymddengys bod yr ymchwil a wnaed hyd yma yn gynhwysfawr. Mae disgwyl i’r astudiaeth gael ei chwblhau yn 2026.
Mae gwelliannau i’w croesawu yn y data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch faint o ysgolion sydd bellach â chynllun dull gweithredu ysgol gyfan, ac maen nhw’n troi’r cynlluniau hynny yn weithredu. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion sy’n defnyddio’r dull ysgol gyfan yn sôn bod cyfathrebu cyson gan y cydlynwyr gweithredu 5 5 penodedig ar lefel y bwrdd iechyd, er bod rhai yn dweud nad oes fawr ddim cyfathrebu, os o gwbl.
At ei gilydd, mae’r gwerthusiadau hyn a’r adroddiadau gwell am ddata i’w croesawu, ond mae’r cynnydd yn parhau i fod yn araf ac mae’n rhaid i ni weld pa mor effeithiol y mae’r dull ysgol gyfan yn cael ei wreiddio ledled Cymru, a pha gyfraniad sydd gan blant a phobl ifanc i ddulliau ysgol gyfan eu hysgolion eu hunain. Gobeithiwn y bydd y gwerthusiadau yn darparu data ar hyn fel y gellir mynd i’r afael ag unrhyw fylchau.
Rhaglen Plentyn Iach Cymru
Argymhellion
Rhaid i Lywodraeth Cymru, ar y cyd â GIG Cymru, sicrhau bod byrddau iechyd lleol mewn sefyllfa i fewnbynnu data cywir ac amserlen ar gyfer rhaglen Plentyn Iach Cymru, er mwyn dangos eu bod yn cadw at y trefniadau sgrinio, imiwneiddio a chyfarfodydd monitro y gall teuluoedd eu disgwyl.
Dylai’r Rhaglen Actif bob Dydd gychwyn yn ddi-oed.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Rydyn ni’n deall bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar adrodd a chofnodi data Rhaglen Plentyn Iach Cymru a beth mae hynny’n ei ddweud wrthyn ni am gapasiti a gweithlu. Rwy’n edrych ymlaen at glywed y camau nesaf ar gyfer sicrhau bod adroddiadau data yn gywir.
Y gwanwyn yma, fel rhan o’u monitro chwarterol ar berfformiad a chyflawni, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys cwestiynau ynghylch cyflwyno Rhaglen Plentyn Iach Cymru, gan gynnwys darparu adnoddau ar gyfer y gweithlu a monitro effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau. Mae’r ffocws hwn i’w groesawu. Cyhoeddwyd canllawiau newydd, ynghyd â chylchlythyr Gweinidogol, ym mis Ebrill 2024 ar gyfer cysylltiadau nyrsio ysgol i blant 5-16 oed. Mae hyn i’w groesawu.
Fodd bynnag, credwn fod angen adolygiad o Raglen Plant Iach Cymru er mwyn sefydlu’n glir y cynnig presennol, bylchau yn y gwasanaeth a pha gamau a gymerir i fynd i’r afael â’r rhain, gan gynnwys rhannu enghreifftiau o arfer da rhwng byrddau iechyd.
Rydyn ni’n deall bod y Cynnig Actif bob Dydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ond dydyn ni ddim yn ymwybodol o unrhyw gynnydd sylweddol o ran gweithredu y polisu mewn ysgolion.
Fêpio/ e-sigarets
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau clir i ysgolion ar gyfer rheoleiddio fêpio.
Dylai Llywodraeth Cymru archwilio ymgyrch iechyd cyhoeddus plant a phobl ifanc, gan amlygu peryglon hysbys a phosibl fêpio.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Mae’r rhan gyntaf wedi cael ei chwblhau. Cyhoeddwyd canllawiau ym mis Medi 2023, ac rydyn ni’n croesawu hynny.
Nid oes cynlluniau ar gyfer ymgyrch iechyd cyhoeddus ar hyn o bryd. O’r hyn rydyn ni’n ei ddeall mae hynny’n rhannol oherwydd y posibilrwydd o dynnu sylw plant at fêpio os nad oedden nhw eisoes yn ymwybodol ohono. Rwy’n cefnogi dull gweithredu gofalus Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond rwy’n gobeithio bod ymgyrch iechyd cyhoeddus yn dal i gael ei hystyried. Rydyn ni wedi bod yn falch o weld gwaith Grŵp Ymateb i Ddigwyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi cyhoeddi adroddiad yn nodi mesurau rheoli posibl i Lywodraeth Cymru eu hystyried.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu pwêr i wireddu’r mesurau rheoli hynny. Rydym yn croesawu gwahardd fêps tafladwy yng Nghymru, gyda gwaharddiad i fod mewn grym o 1 Ebrill 2025. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am nifer o’r mesurau perthnasoll. Rydym yn falch felly y bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â’r Bil Tybaco a Fêps. Fodd bynnag, mae’r amserlen ar gyfer taith drwy Dŷ’r Senedd yn aneglur ar yr adeg yma.
Gwasanaethau hunaniaeth rhywedd
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru gyflymu gwaith yr ymrwymwyd iddo yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+ ar archwilio Gwasanaeth Rhywedd Cymreig i blant a phobl ifanc, yn lle dibynnu ar gomisiynu gwasanaethau o’r GIG yn Lloegr.
Dylid sefydlu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd newydd i Gymru.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Coch
Sylwadau
Mae Llywodraeth Cymru/WHSSC yn dweud “nad oes cynlluniau i ddatblygu gwasanaeth rhywedd plant a phobl ifanc ar unwaith sy’n annibynnol ar wasanaeth NHS England.”
Cyhoeddwyd adroddiad terfynol Adolygiad Cass ym mis Ebrill 2024. Roedd yr adroddiad yn eglur bod angen model rhanbarthol newydd o gyflwyno gwasanaeth. Mae’r adroddiad yn datgan y bydd y “model hefyd yn cefnogi integreiddio rhwng gwahanol wasanaethau plant ac yn hwyluso mynediad cynnar at wasanaethau lleol, a hynny ar hyd llwybrau hyblyg sy’n ymateb yn well i anghenion unigol”.
Mae’n aneglur ar hyn o bryd pa ffurf fydd i’r cynnig hwn yng Nghymru os na fydd gwasanaeth penodol yng Nghymru. Bydd angen i Lywodraeth Cymru egluro sut bydd plant yn cael eu cefnogi’n lleol yn y dull amlasiantaeth mae Cass yn disgrifio. Mae’n hanfodol bod pobl ifanc Cymreig yn chwarae rhan mewn datblygu gwasanaethau newydd a fydd pobl ifanc Cymreig yn eu defnyddio. Dydy hi ddim yn glir ar yr adeg yma pa waith ymgysylltu gyda phobl ifanc fydd yn cymryd rhan.
Gofal cymdeithasol a diwygio radical
Argymhellion
Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi map manwl o’r holl gamau gweithredu sy’n gysylltiedig â Diwygio Rhaglen Gofal Cymdeithasol Plant yn Radical, gan gynnwys symud ymlaen gyda’r camau a gymerwyd yng nghyswllt amddiffyn a diogelu plant. Dylai hyn gael ei seilio ar derfynau amser a dangosyddion deilliannau.
Rhaid cael adroddiad blynyddol ar hyn i sicrhau bod modd i blant ac oedolion alw’r Llywodraeth i gyfrif o ran cynnydd tuag at eu gweledigaeth ar gyfer diwygio.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn datgan eu bod eisoes wedi cyhoeddi cynllun gweithredu, “fydd yn cael ei ddiweddaru i gynnwys camau gweithredu allweddol sy’n cael eu datblygu yng nghyswllt diogelu ac amddiffyn plant ”.
Mae bwletin cyfathrebu newydd wedi’i gyhoeddi bellach, ac mae hynny i’w groesawu.
Cynhaliwyd yr ail Uwchgynhadledd Profiad o Ofal ym mis Mawrth 2024. Mae’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.
Diogelu plant
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru gadarnhau sut bydd y cynigion ar gyfer adolygiad Diogelu Sengl Unedig yn rhoi sicrwydd digonol y bydd y dysgu sy’n deillio o adolygiadau ymarfer plant yn cael ei weithredu a’i fonitro.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Coch
Sylwadau
Daeth y broses SUSR i rym ym mis Hydref 2024. Mae hynny bellach wedi oedi tan 2024. Ni wnaed y newidiadau roedden ni wedi’u hawgrymu i Lywodraeth Cymru er mwyn cryfhau’r llywodraethiant a phrosesau i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu’n ddigonol o Adolygiadau Amddiffyn Plant, er gwaethaf ein hymateb i’r ymgynghoriad, cyfarfodydd dilynol, a gohebiaeth gyda’r Dirprwy Weinidog.
Bydd yn rhaid aros i weld pa mor effeithiol yw’r rolau a’r strwythurau newydd o dan SUSR, ond ar hyn o bryd nid ydym wedi cael digon o sicrwydd y bydd y system yn addas i sicrhau bod pob ymarferydd ar draws ystod o asiantaethau yn clywed am faterion ymarfer sy’n codi o Adolygiadau ac yn rhoi sylw iddynt.
Rydym wedi cael gwybod trwy ohebiaeth ynghylch adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant a gyhoeddwyd yn ddiweddar nad yw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) bellach yn cynnal yr Hyb Cydlynu, gan fod hwnnw bellach yn rhan fewnol o Lywodraeth Cymru. Mae hynny’n golygu nad oes mecanwaith y tu allan i’r Llywodraeth fel rhan o’r trefniadau llywodraethu newydd.
Does gennym ni ddim fynediad ar hyn o bryd at yr ystorfa sydd yn mynd i gynnwys yr holl adroddiadau a chynlluniau gweithredu, er ein bod ni yn eistedd ar y Grwp Strategaeth sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru.
Diogelu – cynllun gweithredu CSA
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol a adnewyddwyd ar Atal Cam-drin Plant yn Rhywiol yn ymateb yn effeithiol i argymhellion ymchwiliad IICSA ac yn ymgorffori barn plant a phobl ifanc mewn modd sensitif.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Rydyn ni’n ymwybodol bod y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol yn cael ei adolygu/ddiwygio ar hyn o bryd, ac y bydd gwaith yn cael ei wneud ar Becyn Offer Ecsbloetio Plant i gyd-fynd â’r Canllawiau Ymarfer sydd eisoes yn bodoli.
Mae’r ail gynllun wedi cael ei greu gan gynnwys plant a phobl ifanc.
Tai diogel i blant agored i niwed
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg am OWR o’r llif gwaith, ynghyd â’r data sy’n dod i’r amlwg o waith AGC ar y pwnc yma, a chynhyrchu cynllun gweithredu ar frys i ymateb i’r anghenion a nodwyd yn ystod 2023/24.
Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar frys i asesu cynnydd y llety a gynlluniwyd sy’n cael ei ddatblygu gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol a’i gomisiynu gan LlC, a cheisio rhoi sylw i rwystrau sy’n atal y gwaith yma rhag cael ei gwblhau.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Mae’r llif gwaith wedi comisiynu gwaith uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc i archwilio’u profiadau a datblygu ymarfer yn y maes hwn.
Mae’r llety sy’n cael ei ddarparu gan y BPRhau wedi symud ymlaen – rydyn ni’n falch o glywed bod llety newydd diogel yn cael ei ddatblygu ym mhob rhanbarth. Fodd bynnag, mae’n aneglur pa brosiectau sy’n gwbl weithredol bellach. Rydyn ni’n ymwybodol o dri – yng Ngwent, Powys a Gogledd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthyn ni fod fframwaith monitro newydd, mwy cadarn, wedi cael ei roi ar waith o fis Hydref 2023. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn sefydlu Cymuned o Ymarfer ar gyfer llety rhanbarthol i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed rhagor o fanylion am y gwerthusiad.
Chwilio plant a phobl ifanc yn noeth
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r canllawiau ‘Ymyriadau diogel ac effeithiol – defnyddio grym rhesymol a chwilio am arfau’, i sicrhau bod canllawiau digonol, wedi’u diweddaru, i ysgolion a chyrff llywodraethu yng Nghymru, er mwyn deall a chyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau’n effeithiol pan fydd bwriad i chwilio plant yn noeth, neu pan fydd hynny wedi digwydd.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid er mwyn gweithredu’r fframwaith arferion cyfyngol mewn lleoliadau addysg, gan gynnwys adolygu’r canllawiau ‘Ymyriadau diogel ac effeithiol – defnyddio grym rhesymol a chwilio am arfau’.
Dydyn ni ddim yn ymwybodol o unrhyw gynnydd yn y fan hon hyd yma, nac unrhyw ddiwygio ar y canllawiau.
Hiliaeth mewn ysgolion
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru gyflawni eu hymrwymiad yn ARWAP i gryfhau’r canllawiau gwrthfwlio presennol i ysgolion (Hawliau, Parch, Cydraddoldeb 2019) er mwyn cydnabod anghenion penodol dysgwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Dylai Llywodraeth Cymru gymryd y camau angenrheidiol yn ystod 2023/24 i sefydlu ‘system Cymru gyfan o adrodd a chasglu data a fydd yn casglu data yn benodol mewn perthynas â bwlio ac aflonyddu, gan gynnwys ar sail nodweddion gwarchodedig’, fel y nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Er mwyn gwella profiadau dysgwyr Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig mewn ysgolion, dylai Llywodraeth Cymru ystyried yn ofalus ac ymateb yn ffurfiol i adroddiad thematig y Comisiynydd sydd ar ddod ynghylch hiliaeth mewn ysgolion, gan gynnwys argymhellion ar gyfer hyfforddi athrawon ynghylch hiliaeth.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n diweddaru canllawiau gwrthfwlio presennol. Mewn gohebiaeth ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd y canllawiau diweddaraf yn cynnwys y canlynol:
“Bydd y diweddariad yn cymryd i ystyriaeth ddata diweddar a rannwyd gan ddysgwyr ynghylch eu profiadau, gan gynnwys profiadau cysylltiedig â bwlio oherwydd rhagfarn.
Bydd y canllawiau diweddaraf yn adlewyrchu newidiadau i’r ddeddfwriaeth a datblygiadau polisi cyfredol, gan gynnwys ymrwymiad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol i gryfhau’r canllawiau presennol ynghylch bwlio ar sail hil, y profiadau o hiliaeth a godwyd gan adroddiad diweddar y Comisiynydd Plant, a hefyd y materion a godwyd yn adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol ymhlith cyfoedion yn yr ysgol uwchradd.
Bydd y diweddariad hefyd yn ymhelaethu ar gyngor i leoliadau addysg ynghylch cofnodi gwahanol fathau o fwlio a sut mae modd defnyddio’r data hwnnw’n effeithiol i gynllunio dulliau gweithredu ataliol ac ymyriadau.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y byddan nhw’n ymateb yn ffurfiol i’r adroddiad thematig, ac ar hyn o bryd maen nhw’n mapio’r argymhellion ar gyfer ailadrodd yr ARWAP.
Plant a phobl ifanc Sipsiwn, Roma a Theithwyr mewn addysg – fforwm gymunedol
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu fforwm cymunedol neu rywbeth tebyg i hwyluso deialog parhaus gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Coch
Sylwadau
Er bod Llywodraeth Cymru wedi mynegi y byddai hon yn ystyriaeth yn y dyfodol, nid oes cynlluniau cyfredol nac amserlen ar gyfer datblygu’r darn yma o waith. Rydyn ni’n ymwybodol bod aelodau newydd o staff wedi’u penodi’n ddiweddar i dîm polisi Llywodraeth Cymru, ac mae hynny i’w groesawu.
Plant a phobl ifanc Sipsiwn, Roma a Theithwyr mewn addysg – canllawiau RSE
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau annibynnol ynghylch cyflwyno RSE, gan gynnwys astudiaethau achos i helpu ysgolion i gefnogi anghenion pob dysgwr.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi eu bod wrthi’n ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn datblygu canllawiau, ond nid oes amserlen ar hyn o bryd ar gyfer cyhoeddi’r canllawiau annibynnol hyn.
Cefnogaeth i ddysgwyr ag anabledd a phlant ag anghenion ychwanegol
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r dysgu proffesiynol am ADY i athrawon, ac ystyried gwneud lleoliad mewn darpariaeth ADY arbenigol (gan gynnwys unedau STF mewn ysgolion prif ffrwd) yn rhan orfodol o hyfforddiant pob athro (ITE).
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cynllun hirdymor yn ei le i sicrhau digonolrwydd lleoliadau darpariaeth arbenigol i ddiwallu anghenion y garfan gynyddol o ddysgwyr y nodwyd bod ganddyn nhw anghenion cymhleth.
Dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r gofynion hyfforddi gorfodol ar gyfer llywodraethwyr ysgol a diwygio’r canllawiau, er mwyn cynnwys anghenion dysgu ychwanegol yn arbennig, materion cysylltiedig fel gwaharddiadau a chyfyngu ar yr amserlen, a gofynion y cwricwlwm newydd.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i “archwilio gydag ysgolion arbennig a phartneriaid ITE yr anawsterau a’r cyfleoedd yng nghyswllt cynnwys ysgolion arbennig yn fwy mewn ITE.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid pellach i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY, ond mae eu hymateb yn dangos mai mater i awdurdodau lleol yw hwn. Rwy’n croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu’r gofynion hyfforddi gorfodol i lywodraethwyr ysgol a’r canllawiau a’r ddeddfwriaeth cysylltiedig ‘er mwyn ystyried a ddylid gwneud newidiadau iddynt’. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod llywodraethwyr yn deall hyd a lled eu rôl a’u bod yn barod i herio’u hysgolion yn effeithiol fel ffrind beirniadol, a dylid ei wneud fel mater o frys, gyda’r camau dilynol angenrheidiol i gefnogi’r newidiadau hyn.
Cefnogaeth i ddysgwyr ag anabledd a phlant ag anghenion ychwanegol – niwroamrywiaeth
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru symud ymlaen gyda’r gwaith a gynlluniwyd o ran y Rhaglen Gwella Niwroamrywiaeth i sicrhau dull gweithredu cyson, Cymru-gyfan o ymdrin â diagnosis meddygol preifat, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau gweithredu a fframwaith ar gyfer clinigwyr.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Er bod y Rhaglen Wella yn gweithio ar hyd sawl trywydd sy’n ceisio gwella profiad plant niwroamrywiol a theuluoedd sy’n ceisio cefnogaeth (gan gynnwys gwaith ar gynnig digidol, a llinell gyngor newydd), mae’n aneglur ar hyn o bryd sut bydd y Rhaglen yn datblygu’r newid diwylliant sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â’r rhestrau aros anferth a’r gefnogaeth anghyson ar draws Cymru.
Mae Rhaglen Gwella Niwroamrywiaeth wedi’i hariannu hyd at 2025 yn unig. Mae’n eglur bod angen llawer mwy o gynnydd, felly rydyn ni’n gobeithio gweld y gwaith hwn yn cael ei estyn.
Gwaharddiadau o’r ysgol
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru gwblhau eu bwriad i ddiwygio’r canllawiau statudol ar waharddiadau yn 2023/24, gan gryfhau’r canllawiau i grwpiau penodol yr effeithir yn anghymesur arnyn nhw gan waharddiadau a sancsiynau eraill, gan gynnwys plant iau, y rhai â nodweddion gwarchodedig, y rhai ag ADY a’r rhai sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariad ar eu hadolygiad cynhwysfawr o’r holl ganllawiau sy’n ymwneud â phresenoldeb, ymddygiad a gwaharddiadau.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Ymrwymodd y Llywodraeth i ddiweddaru’r canllawiau ‘Gwaharddiadau o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion’, mewn dau gam. Roedd cam cyntaf y newidiadau i gael ei gyhoeddi yn ystod tymor yr hydref, a bod yn destun ymgynghoriad llawn.
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi gwybodaeth ynghylch gwaith i wella ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr, ac mae wedi cynnull y Tasglu Presenoldeb ag arweiniad Gweinidogol. Mae’r Comisiynydd yn rhan o’r tasglu ac mae hi hefyd yn eistedd ar ffrwd waith ymgysylltu ieuenctid.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymgysylltu â’r ymgynghoriad(au) llawn pan gânt eu cyflwyno.
Addysgu gartref
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru greu cyfleoedd rheolaidd yn ystod 2023/24 i barhau i ymgysylltu â theuluoedd sy’n addysgu gartref wrth i’r canllawiau gael eu rhoi ar waith.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw waith ymgysylltu pellach gan Lywodraeth Cymru ers y sesiynau a gynhaliwyd ar y cyd rhwng ein swyddfa a Llywodraeth Cymru.
Gwasanaethau ieuenctid
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru symud ymlaen â’r bwriad i gynnal adolygiad o’r cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid yn ystod y tymor Senedd hwn, a chwblhau’r gwaith hwnnw, er mwyn sicrhau bod modd i wasanaethau gwaith ieuenctid fod ar sylfaen gynaliadwy, i ddiogelu’r gwasanaethau hanfodol hyn yn y tymor hwy.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Mae cyfarwyddyd y Gweinidog o ran blaenoriaethau i Fwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid yn cynnwys –
- cwblhau adolygiad annibynnol o’r cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru;
- rhychwantu rôl a chylch gorchwyl corff cenedlaethol posibl ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru;
- cryfhau’r sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Mae hyn yn gysylltiedig â nod hirdymor o geisio sicrhau Deddf benodol ar gyfer Gwaith Ieuenctid.
Rydyn ni’n ymwybodol bod disgwyl ymgynghoriad ar fodel drafft ar gyfer Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Addysg mewn lleoliadau gofal iechyd
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru’r canllawiau EOTAS a’r fframwaith ar gyfer gweithredu, er mwyn sicrhau bod cynnig addysg amser llawn yn cael ei gynnal ar gyfer y rhai sy’n derbyn triniaeth fel cleifion mewnol, pryd bynnag mae hynny’n briodol.
Gradd CAG ar hyn o bryd
Ambr
Sylwadau
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiweddaru’r canllawiau hyn. Yn eu hymateb i’r adroddiad ym mis Mawrth 2024 dywedwyd y “byddant yn diweddaru’r canllawiau Cefnogi dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd i gyflwyno dyletswyddau ar gyfer awdurdodau lleol, gan gynnwys y disgwyl bod disgyblion EOTAS yn derbyn rhyw 5 awr o addysg y dydd, ac eithrio pan na fydd hynny er eu lles pennaf.”
Mae hyn i’w groesawu, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld manylion pellach am y gwaith hwn, ond wrth i ni gyhoeddi y dogfen yma does dim manylion pellach wedi eu rhannu gyda ni, ac rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i fwrw ymlaen gyda’r gwaith yma.