Diwrnod Hawliau Dynol – Holiadur Ciplun o Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru

Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma

Cyflwyniad

Yn ystod mis Rhagfyr 2024 buon ni’n gofyn barn plant a phobl ifanc sut yr hoffent ddysgu mwy am eu hawliau.

Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau. Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.

Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoswyd fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, gofynnwyd iddyn nhw gymryd rhan mewn cwis hawliau ac yna gofynwyd iddynt feddwl sut yr hoffent ddysgu mwy am eu hawliau e.e. ymuno â sesiynau ar-lein, canu caneuon, cymryd rhan mewn gweithgareddau hawliau, gwylio fideos. Yn yr amlinelliad ar gyfer y sesiwn, roedden ni’n awgrymu, ar ôl gweld y fideo, y dylai plant a phobl ifanc gael amser i drafod eu barn gyda’i gilydd cyn ateb yr holiadur. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.

Atebodd 384 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 7 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 12 awdurdod lleol.

Datblygwyd y cwestiynau gan dîm staff profiadol y Comisiynydd ar sail themâu oedd wedi dod i’r amlwg mewn ymarferion ymgysylltu blaenorol gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.

Cwestiynau i’r plant a bobl ifanc

Mae dy hawliau yn berthnasol i bob rhan o dy fywyd.

Pa bethau o’r rhestr isod sy’n diddorol i ti? Bydd gwybod hyn yn helpu ni wneud gweithgareddau hawliau yn y dyfodol. Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un.

Iechyd (corfforol a meddwl) (95) – 50%

Diogelwch yn y cartref, yr ysgol, a’r gymuned (83) – 43%

Dweud dy ddweud/rhannu barn/cael llais (82) – 43%

Diogelwch arlein (76) – 40% Addysg (74) – 39%

Gwahaniaethu (discrimination) a chydraddoldeb (equality) (53) – 28%

Hawl i ddefnyddio iaith dy hun (53) – 28%

Preifatrwydd, gwybodaeth, a misinformation (52) – 27%

Arall (11) – 6%

Sut wyt ti eisiau dysgu mwy am dy hawliau? Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un.

Gweithgareddau yn y dosbarth (149) – 42%

Gwylio fideos yn y dosbarth, gwasanaeth, neu glwb (147) – 41%

Cwis (146) – 41% Posteri (134) – 38%

Digwyddiadau arlein (72) – 20%

Mater y Mis (72) – 20%

Trafodaethau dosbarth (68) – 19%

Creu cynnwys gwahanol am hawliau, fel fideos (62) – 17%

Does dim diddordeb gen i yn y pwnc yma (36) – 10%

Arall (19) – 5%

Beth arall?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Celf/arlunio a chrefftau
  • Codi ymwybyddiaeth o fewn yr ysgol
  • Posteri / Llyfrau
  • Gweithgareddau
  • Cyflwyniadau
  • Ymweld ag ysgolion arall

Cwestiynau i athrawon

Pan ymatebodd athrawon neu arweinwyr grŵp ar ran y grŵp, roedd eu atebion yn adleisio’r atebion a roddwyd gan blant yn uniongyrchol. Hefyd gofynnwyd cwestiwn i athrawon yn gofyn iddynt roi eu barn broffesiynol eu hunain ar y mater:

Pa bethau o’r rhestr isod a oedd o ddiddordeb i’r grwp? Bydd gwybod hyn yn helpu ni wneud gweithgareddau hawliau yn y dyfodol.

Iechyd (corfforol a meddwl) (7) – 54%

Addysg (7) – 54%

Diogelwch arlein (6) – 46%

Gwahaniaethu (discrimination) a chydraddoldeb (equality) (6) – 46%

Hawl i ddefnyddio iaith dy hun (6) – 46% P

reifatrwydd, gwybodaeth, a misinformation (5) – 39%

Dweud dy ddweud/rhannu barn/cael llais (3) – 23%

Diogelwch yn y cartref, yr ysgol, a’r gymuned (2) – 15%

Sut oedd y grwp eisiau dysgu mwy am eu hawliau?

Gweithgareddau yn y dosbarth (12) – 71%

Cwis (8) – 47% Posteri (7) – 41%

Creu cynnwys gwahanol am hawliau, fel fideos (6) – 35%

Gwylio fideos yn y dosbarth, gwasanaeth, neu glwb (5) – 29%

Trafodaethau dosbarth (5) – 29%

Mater y Mis (3) – 18%

Digwyddiadau arlein (2) – 12%

Doedden nhw ddim eisiau dysgu mwy (1) – 6%

Arall (1) – 6%

Diweddglo

Roedd yr atebion hyn yn rhoi cipolwg i dîm y Comisiynydd i helpu gyda’r gwelliant parhaus o’n cynnig o adnoddau i blant, pobl ifanc, ysgolion a chlybiau ieuenctid.