Ffonau smart yn yr ysgol – Holiadur Ciplun o Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru

Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma

Cyflwyniad

Yn ystod mis Medi 2024 buon ni’n gofyn barn plant a phobl ifanc am eu meddyliau am ddefnyddio ffonau clyfar (smartphones) yn yr ysgol.

Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau. Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.

Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoswyd fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau fel os oes ganddyn nhw ffôn clyfar (smartphone), ydyn nhw’n mynd a’r ffôn gyda nhw i’r ysgol, ac ydy nhw’n meddwl y dylai fod gan ysgolion fwy o reolau ynglyn a defnyddio ffôn clyfar (smartphone). Yn yr amlinelliad ar gyfer y sesiwn, roedden ni’n awgrymu, ar ôl gweld y fideo, y dylai plant a phobl ifanc gael amser i drafod eu barn gyda’i gilydd cyn ateb yr holiadur. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth. Atebodd 1,127 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol.

Bu 2,170 o blant eraill yn cymryd rhan mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 6 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 18 awdurdod lleol.

Datblygwyd y cwestiynau gan dîm staff profiadol y Comisiynydd ar sail themâu oedd wedi dod i’r amlwg mewn ymarferion ymgysylltu blaenorol gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.

Cwestiynau i’r plant a bobl ifanc

Atebion Ysgolion Cynradd

Oes gennyt ti smartphone? (Trwy smartphone, rydyn ni’n golygu ffôn sydd yn gallu mynd ar y wê a defnyddio apiau)

Oes (261) – 62%

Nac oes (159) – 38%

Wyt ti’n mynd â dy ffôn i’r ysgol?

Nac ydw (198) – 77%

Ydw (59) – 23%

Pam wyt ti’n mynd â’r ffôn i’r ysgol?

Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un I allu anfon neges i fy nheulu (42) – 68%

Mae’n helpu fi deimlo’n ddiogel (38) – 61%

Rheswm arall (18) – 29%

Ar gyfer dysgu (6) – 10%

Mae fy ffrindiau yn mynd â ffôn (5) – 8%

Beth yw’r rheswm arall?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Diogelwch wrth gerdded adref
  • Life 360 (rhieni yn gwybod ble ydw i)

Oes gan dy ysgol rheolau am ddefnyddio ffôn?

Oes (288) – 68%

Dwi ddim yn gwybod (109) – 26%

Nac oes (24) – 6%

Pa reolau sydd gan yr ysgol?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Rhaid rhoi ffôn mewn drôr arbennig yn y dosbarth / cael ei gadw gan yr athro
  • Peidiwch â dod â’r ffôn i’r ysgol / dim caniatau ffonau yn yr ysgol
  • Caniateir i gael ffôn ond ni chaniateir eu defnyddio yn ystod amser ysgol / ar dir yr ysgol

Wyt ti’n meddwl bod angen mwy o reolau yn yr ysgol am ddefnyddio smartphone?

Nac ydw (205) – 49%

Dwi ddim yn gwybod (122) – 29%

Ydw (94) – 22%

Pa syniadau sydd gennyt ti am reolau newydd?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Dim ffonau yn yr ysgol
  • Dim ond yn ystod amser egwyl / ar yr iard y dylech defnyddio’ch ffôn

Wyt ti eisiau cael rheolau ar smartphones pan rwyt ti’n mynd i’r ysgol uwchradd?

Nac ydw (171) – 41%

Dwi ddim yn gwybod (126) – 30%

Ydw (124) – 30%

Pa rheolau hoffet ti gael?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Dim ffôn yn y gwersi
  • Caniateir eu defnyddio yn ystod amser egwyl
  • Caniatáu nhw yn yr ysgol (gan gynnwys eu cadw yn magiau’r disgyblion)

Atebion Ysgolion Uwchradd

Oes gennyt ti smartphone? (Trwy smartphone, rydyn ni’n golygu ffôn sydd yn gallu mynd ar y wê a defnyddio apiau)

Oes (680) – 97%

Nac oes (21) – 3%

Wyt ti’n mynd â dy smartphone i’r ysgol? (Wyt ti’n cymryd dy smartphone i’r ysgol?)

Ydw (633) – 94%

Nac ydw (43) – 6%

Pa mor aml wyt ti’n defnyddio dy smartphone yn yr ysgol?

Weithiau (365) – 57%

Yn aml (141) – 22%

Byth (75) – 12%

Trwy’r amser (56) – 9%

Pam wyt ti’n defnyddio dy smartphone yn yr ysgol? Mae hawl gennyt ti ddewis mwy nag un ateb.

Cysylltu gyda theulu (382) – 68%

Cysylltu gyda ffrindiau (260) – 46%

Gwaith ysgol/dysgu (254) – 45%

Cyfryngau cymdeithasol (social media) (217) – 39%

Chwarae gemau (215) – 38%

Arall (61) – 11%

Rheswm arall pam wyt ti’n defnyddio dy smartphone yn yr ysgol?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Edrych ar amserlen yr ysgol ac apiau eraill yr ysgol
  • Edrych ar yr amser
  • Gwrando ar gerddoriaeth

Oes hawl gennyt ti ddefnyddio dy smartphone yn y dosbarth?

Nac oes (636) – 91%

Oes (62) – 9%

Ar gyfer beth wyt ti’n gallu ei ddefnyddio?

Dysgu interactif (fel cwisiau, côdau QR) (56) – 90%

I helpu fi ddysgu (fel apiau penodol, cyfieithu) (33) – 53%

Anghenion teulu (12) – 19% Arall (8) – 13%

Anghenion meddygol/iechyd (5) – 8%

Wyt ti’n defnyddio dy smartphone yn y dosbarth?

Ydw – ar gyfer dysgu (299) – 48%

Na (235) – 38%

Ydw – ar gyfer rheswm arall (188) – 30%

Wyt ti’n meddwl dylai pobl ifanc cael caniatad i ddefnyddio smartphones yn y dosbarth?

Ydw (433) – 62%

Nac ydw (265) – 38%

Ydy smartphones yn tynnu dy sylw (distract) yn y dosbarth? (gallai hyn golygu dy ffôn di neu ffôn person arall)

Na (433) – 62%

Ydyn – tipyn bach (214) – 31%

Ydyn – llawer (50) – 7%

Pam ydyn nhw’n tynnu dy sylw?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Sŵn / uchel Hysbysiadau /
  • Negeseuon
  • Pobl yn eu defnyddio yn ystod dosbarth / tynnu sylw eraill / ddim yn gwrando yn ystod gwers

Wyt ti eisiau mwy o reolau am smartphones yn yr ysgol?

Nac ydw (347) – 51%

Dwi ddim yn siwr (249) – 36%

Ydw (90) – 13%

Beth hoffet ti newid ynglyn â’r rheolau am smartphones yn dy ysgol di?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Defnyddio’r ffôn yn ystod amser egwyl ac amser cinio
  • Mynediad anghyfyngedig
  • Defnyddio nhw i ddysgu

Cwestiynau i athrawon

Pan ymatebodd athrawon neu arweinwyr grŵp ar ran y grŵp, roedd eu atebion yn adleisio’r atebion a roddwyd gan blant yn uniongyrchol. Hefyd gofynnwyd cwestiwn i athrawon yn gofyn iddynt roi eu barn broffesiynol eu hunain ar y mater:

Crynhowch y drafodaeth gaethoch chi fel grwp os gwelwch yn dda. Sut roedd y grwp yn teimlo am smartphones yn yr ysgol? Ydyn nhw eisiau mwy o reolau? Oes yna reolau yn bodoli yn barod? Sut ydyn nhw’n teimlo am y rheolau hynny?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Mae ffonau’n dda ar gyfer diogelwch / cyfathrebu â rhieni / argyfyngau / cerdded i’r ysgol ac adref
  • Mae rheolau presennol yr ysgol yn ddigon teg / rheolau yn barod
  • Dylid gwahardd ffonau – llai o dynnu sylw, mwy o ffocws
  • Dylid defnyddio nhw at bwrpas addysg
  • Syniad da eu cael yn yr ysgol – dangos bod ni’n ymddiried mewn pobl ifanc

Oes yna rheolau yn barod am ddefnydd ffônau yn yr ysgol?

Oes (52) – 96%

Nac oes (2) – 4%

Beth yw’r rheolau?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Dim ffonau yn yr ysgol
  • Caniateir ar safle’r ysgol ond rhaid ei ddiffodd / ei gadw mewn bag
  • Mae unrhyw ffonau sy’n dod i mewn yn cael eu cadw gan athro / yn y swyddfa tan ddiwedd y dydd

I ba raddau ydy defnydd ffônau yn effeithio ar eich gallu i ddysgu/ar wersi?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Ddim yn broblem / ddim yn berthnasol – peidiwch â chaniatáu ffonau yn y dosbarth
  • Mae ffonau yn tynnu sylw’r addysgu
  • Ffynhonnell gyson o wrthdaro / disgyblion yn edrych ar eu ffonau yn gyson / anwybyddu’r rheolau

Hoffech chi gael rheolau newydd yn yr ysgol? Os felly, beth?

Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:

  • Na – mae’r rheolau presennol yn gweithio’n dda
  • Gorfodi rheolau presennol gwell / cosbau llymach
  • Gwahardd ffonau o’r ysgol

Diweddglo

  • Dywedodd 94% o blant ysgolion uwchradd eu bod yn mynd â’u ffôn i’r ysgol
  • Dywedodd 68% o blant ysgolion uwchradd eu bod wedi defnyddio eu ffôn yn yr ysgol i anfon neges neu i ffonio eu teuluoedd. Roedd defnyddiau ymarferol eraill yn cynnwys edrych ar amserlen yr ysgol ac edrych ar yr amser
  • Dywedodd 91% o blant ysgolion uwchradd nad ydynt yn cael defnyddio ffôn yn y dosbarth Ond dywedodd 30% o blant ysgolion uwchradd eu bod wedi defnyddio eu ffôn yn y dosbarth ar gyfer pethau arall heblaw dysgu
  • Mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn hapus gyda’u rheolau ysgol ar hyn o bryd
  • Dywedodd 96% o athrawon fod rheolau eisoes yn yr ysgol ynglŷn â ffonau – roedd y rheolau hyn yn cynnwys dim ffonau yn yr ysgol, ffonau yn cael eu caniatáu ar y safle ond yn cael eu cadw yn y bag, ac atafaelu dyfeisiau
  • Er bod rhai athrawon yn dweud nad yw ffonau yn achosi problemau sylweddol, dywedodd rhai fod ffonau yn destun rhwystredigaeth gyson, ac yn tynnu sylw oddi ar addysgu

Beth ydym yn gwneud ag hyn?

Rydym wedi rhannu’r safbwyntiau hyn gyda Llywodraeth Cymru a’r Pwyllgor Deisebau sy’n cynnal ymchwiliad i ddeiseb fydd yn gwahardd ffonau clyfar mewn ysgolion.