Helpu’r Amgylchedd – Holiadur Ciplun o Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru
Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma
Cyflwyniad
Yn ystod mis Tachwedd 2024 buon ni’n gofyn barn plant a phobl ifanc sut maen nhw’n helpu’r amgylchedd yn eu cartref, yn yr ysgol, ac yn eu cymuned, a pha mor ymwybodol ydyn nhw o weithredai lleol a chenedlaethol o fewn / yn y maes hwn.
Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau. Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol.
Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoswyd fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau fel beth maen nhw’n ei wneud gartref i helpu’r amgylchedd, a’u hymwybyddiaeth o fentrau lleol a chenedlaethol a’u cyfranogiad i helpu’r amgylchedd. Yn yr amlinelliad ar gyfer y sesiwn, roedden ni’n awgrymu, ar ôl gweld y fideo, y dylai plant a phobl ifanc gael amser i drafod eu barn gyda’i gilydd cyn ateb yr holiadur. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.
Atebodd 494 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol. Bu 626 o blant eraill yn cymryd rhan mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 6 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 16 awdurdod lleol.
Datblygwyd y cwestiynau gan dîm staff profiadol y Comisiynydd ar sail themâu oedd wedi dod i’r amlwg mewn ymarferion ymgysylltu blaenorol gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
Cwestiynau i’r plant a bobl ifanc
Beth wyt ti a dy deulu/gofalwyr yn gwneud adref i helpu yr amgylchedd / newid hinsawdd?
Ail-ddefnyddio bagiau siopa (371) – 74%
Troi goleuadau i ffwrdd (360) – 72%
Defnyddio bin gwastraff bwyd (360) – 72%
Troi pethau electronig i ffwrdd yn y nôs, er enghraifft y teledu (298) – 59%
Defnyddio llai o ddŵr (222) – 44%
Trio prynu mwy o fwyd lleol (fel cig a llysiau) (176) – 35%
Prynu bwyd gyda llai o blastig o’u cwmpas (fel prynu bananas sydd ddim mewn bag plastig) (163) – 30%
Cerdded/seiclo/sgwtio i’r ysgol yn lle defnyddio car (151) – 30%
Newid yr hyn rydych chi’n bwyta (74) – 15%
Defnyddio mwy o drafnidiaeth cyhoeddus fel y trên ar fws (73) – 15%
Rhywbeth arall (35) – 7%
Dwi ddim yn gwybod (27) – 5%
Dydy fy nheulu ddim yn gwneud unrhywbeth yn benodol ar hyn o bryd (3) – 1%
Beth ydy dy ysgol/grŵp cymunedol yn gwneud yn barod i helpu’r amgylchedd?
Ailgylchu (387) – 77%
Defnyddio bin gwastraff bwyd (303) – 60%
Grwpiau/pwyllgorau eco (291) – 58%
Casglu sbwriel (281) – 56%
Troi goleuadau i ffwrdd (252) – 50%
Annog chi i gerdded, seiclo, neu sgwtio i’r ysgol, neu mynd ar drên neu fws (220) – 44%
Newid y bwydlen cinio (178) – 35%
Lleihau plastig un-tro (99) – 20%
Dwi ddim yn gwybod (40) – 8%
Rhywbeth arall (19%) – 4%
Dydy fy ysgol/grŵp cymunedol ddim yn gwneud unrhywbeth penodol ar hyn o bryd (5) – 1%
Oes yna unrhywbeth hoffech chi bod yr ysgol/grŵp yn gwneud mwy ohonno fe?
Pigo sbwriel i fyny (152) – 31%
Newid y bwydlen cinio (125) – 25%
Troi goleuadau i ffwrdd (125) – 25%
Ailgylchu (116) – 24%
Dwi ddim yn gwybod (111) – 23%
Lleihau plastig un-tro (110) – 22%
Defnyddio bin gwastraff bwyd (108) – 22%
Annog chi i gerdded, seiclo, neu sgwtio i’r ysgol, neu mynd ar drên neu fws (100) – 20% Grwpiau/pwyllgorau eco (67) – 14%
Dydy fy ysgol/grwp cymunedol ddim yn gwneud unrhywbeth penodol ar hyn o bryd (29) – 6%
Rhywbeth arall (24) – 5%
Oes unrhyw beth rwyt ti’n falch bod yr ysgol/grŵp cymunedol yn ei wneud? Hoffet ti ddweud mwy am hyn?
Na hoffwn (363) – 74%
Hoffwn (130) – 26%
Beth ydy’r ysgol/grŵp yn ei wneud?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
Ailgylchu
Tyfu bwyd eu hunain
Pigo sbwriel i fyny
Wyt ti’n gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu’r amgylchedd?
Dwi ddim yn gwybod (238) – 47%
Nac ydw (165) – 33%
Ydw (100) – 20%
Beth wyt ti wedi clywed amdano?
Y nifer uchaf o ymatebion y cyfeirir atynt yw i leihau’r defnydd o fagiau plastig
Sut fyddet ti’n darganfod mwy am beth mae Cymru yn ei wneud i helpu’r amgylchedd?
Y newyddion (251) – 51%
Gwersi yn yr ysgol (222) – 45%
Rhieni/teulu (147) – 30%
Cyfryngau cymdeithasol (123) – 25%
Edrych arlein (117) – 24%
Dwi ddim yn edrych/dwi ddim â diddordeb (73) – 15%
Arall (17) – 3%
Wyt ti’n gwybod am unrhyw grwpiau o bobl sy’n ceisio helpu’r hinsawdd/yr amgylchedd? Gallai hwn fod yn grŵp o fewn dy ysgol neu gymuned leol neu grwp cenedlaethol/byd-eang.
Dwi ddim yn gwybod (206) – 42%
Ydw (161) – 33%
Nac ydw (126) – 26%
Pa grwpiau wyt ti wedi clywed amdanyn nhw?
Roedd y nifer uchaf o ymatebion yn cyfeirio at grwpiau/cynghorau eco yr ysgol.
Wyt ti’n cymryd rhan mewn unrhyw grwpiau sy’n helpu’r amgylchedd?
Nac ydw (285) – 58%
Ydw (131) – 27%
Dwi ddim yn gwybod (78) – 16%
Hoffet ti fod yn rhan o grŵp fel hyn?
Nac ydw (103) – 36%
Dwi ddim yn gwybod (92) – 32%
Ydw (89) – 31%
Wyt ti’n teimlo bod gennyt ti ddigon o wybodaeth i helpu’r amgylchedd, a beth allet ti ei wneud i wneud gwahaniaeth?
Ydw (230) – 46%
Dwi ddim yn gwybod (144) – 29%
Nac ydw (61) – 12%
Does gen i ddim diddordeb (60) – 12%
Cwestiynau i athrawon
Pan ymatebodd athrawon neu arweinwyr grŵp ar ran y grŵp, roedd eu atebion yn adleisio’r atebion a roddwyd gan blant yn uniongyrchol. Hefyd gofynnwyd cwestiwn i athrawon yn gofyn iddynt roi eu barn broffesiynol eu hunain ar y mater:
A oes gennych y wybodaeth rydych chi ei angen am y mater hwn i’w rhannu â phlant a phobl ifanc a hwyluso trafodaethau?
Roedd rhan fwyaf o athrawon yn teimlo bod ganddynt ddigon o wybodaeth.
Diweddglo
- O’r canfyddiadau, mae’n amlwg bod plant a phobl ifanc ledled Cymru yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi’r amgylchedd.
- O ystyried bod bron i hanner (45%) y plant a’r bobl ifanc wedi dweud eu bod yn cael gafael ar eu gwybodaeth am y pwnc hwn o wersi yn yr ysgol, mae’n galonogol bod athrawon wedi dweud eu bod yn teimlo bod ganddynt yr wybodaeth i rannu gwybodaeth gyda phlant a phobl ifanc ar y pwnc hwn ac i hwyluso trafodaethau.
- Hoffai 31% o blant a phobl ifanc sy’n cyfranogi gymryd rhan mewn grŵp sy’n helpu’r amgylchedd, fodd bynnag, ymatebodd 42% “Nid wyf yn gwybod” pan ofynnwyd iddynt os/a oeddent yn gwybod am unrhyw grwpiau sy’n cefnogi’r amgylchedd, ac ymatebodd 47% yn yr un ffordd pan ofynnwyd iddynt os/a oeddent yn gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu’r amgylchedd. O ystyried y canfyddiadau hyn, byddai gwybodaeth sy’n gyfeillgar i blant am y camau sy’n cael eu cymryd yng Nghymru, a chyfleoedd i weithredu i helpu’r amgylchedd yn ddefnyddiol i hyrwyddo gweithredu yr hinsawdd ymhellach.
- Dim ond 15% o blant a phobl ifanc a ymatebodd i’r arolwg hwn a dywedodd eu bod wedi defnyddio ‘mwy o drafnidiaeth gyhoeddus’ i helpu’r amgylchedd. Mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd galwadau Comisiynydd Plant Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 18 oed, nid yn unig i liniaru tlodi, ond hefyd i gyflwyno ymddygiadau gydol oes mewn perthynas â thrafnidiaeth gall fod o fudd i’r amgylchedd.