Eleni bu ein swyddfa’n cymryd rhan yn ENYA (Rhwydwaith Ymgynghorwyr Ifanc Ewrop), prosiect cyfranogiad blynyddol sy’n cynnwys pobl ifanc yng ngwaith ENOC.
Buon ni’n gweithio gydag 16 aelod o’n Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc ar thema eleni – ‘Effaith COVID-19 ar hawliau plant.’
Y Prosiect
Pwrpas y prosiect oedd bod y grŵp o bobl ifanc yn cwrdd dros nifer o fisoedd i drafod y thema, i ymchwilio i bynciau o ddiddordeb, ac i ddatblygu argymhellion polisi. Yna cyflwynodd dau lysgennad, a etholwyd gan eu cyfoedion i gynrychioli’r grŵp, eu hargymhellion polisi a phrosiectau yn fforwm ar-lein ENYA, a gynhaliwyd eleni gan Swyddfa Comisiynydd Plant Malta.
Dros gyfnod o dri mis bu ein grŵp ENYA cwrdd yn rhithiol ar sawl achlysur i drafod effaith COVID-19 ar hawliau plant, gyda ffocysu’n allweddol ar iechyd, addysg a theuluoedd pobl ifanc. Buon nhw’n gweithio’n galed i ystyried a thrafod y materion roedd pob plentyn a pherson ifanc ar draws Cymru yn eu hwynebu yn ystod y Pandemig. Yn ystod y sesiynau buon nhw’n ddigon ffodus i siarad â llawer o bobl broffesiynol, gan gynnwys darlithwyr prifysgol, athrawon prifysgol a’r Comisiynydd Plant, Sally Holland.
Gwnaeth un aelod o bob un o’r 18 o wledydd/ranbarthau sy’n cymryd rhan yn fforwm ENYA hefyd cael eu gwahodd i fynychu Cynhadledd Flynyddol ENOC 2021, a gynhelir yn rhithiol ym mis Medi. Yno cyflwynwyd gwaith ENYA ar y cyd, a thrafod y materion yn fanylach gydag ombwdsmyn.
Cewch ragor o wybodaeth am brosiect 2021 yma
Argymhellion ENYA Cymru o ran ‘Effaith COVID-19 ar hawliau plant’
Fe welwch argymhellion polisi ein grŵp ENYA yma:
Profiad Pobl Ifanc
Cewch ddarllen am brofiad personol un aelod yma: