Mae ENYA (Rhwydwaith Ymgynghorwyr Ifanc Ewrop) yn briosect cyfranogiad blynyddol sy’n cynnwys pobl ifanc yng ngwaitih ENOC.
Eleni buon ni’n gweithio gydag 16b aelod o’n Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc ar y thema – “Dewch i ni siarad yn ifanc, Dewch i ni siarad am Gyfiawnder Hinsawdd.”
Y Prosiect
Mae’r prosiect yn annog grŵp o bobl ifanc i gwrdd yn rheolaidd dros gyfnod o amser i drafod thema benodol, i ymchwilio i bynciau o ddiddordeb, ac i ddatblygu argymhellion polisi. Yna bu dau lysgennad a etholwyd gan eu cyfoedion i gynrychioli’r grŵp yn cyflwyno eu hargymhellion polisi a phrosiectau yn fforwm ENYA, a gynhaliwyd eleni yn Ngwlad Basque.
Rhwng Chwefror a Mehefin 2022 bu ein grŵp ENYA cwrdd yn rhithiol ar sawl achlysur i drafod effaith newid hinsawdd ar hawliau plant, gan ffocysu’n allweddol ar gyfiawnder hinsawdd, ffyrdd o fyw ac ôl troed carbon. Buon nhw’n gweithio’n galed i ystyried a thrafod y materion roedd pob plentyn a pherson ifanc ar draws Cymru yn eu hwynebu. Yn ystod y sesiynau buon nhw’n ddigon ffodus i siarad â phobl broffesiynol, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes ac Swyddog a rheolwr lleihau gwastraff Cyngor Abertawe.
Cewch ragor o wybodaeth am brosiect 2022 ar wefan ENOC.
Argymhellion ENYA Cymru 2022
Fe welwch argymhellion polisi ein grŵp ENYA yma: