Eleni, cymrodd ein swyddfa rhan yn ENYA (European Network of Young Advisors), prosiect cyfranogiad blynyddol sy’n ymglymu pobl ifanc yng ngwaith blynyddol ENOC.
Buon ni’n gweithio gyda 16 disgybl o Ysgol Gyfun Gwyr ar thema eleni – “Hawliau Plant yn y Byd Digidol’.
Pwrpas y prosiect oedd i’r grŵp cwrdd dros nifer o fisoedd er mwyn trafod y thema, creu cyflwyniad ac i ddatblygu argymhellion polisi. Wedyn, aeth dau lysgennad o’r grŵp eu hethol i gyflwyno’r prosiect a’r argymhellion yn Fforwm ENYA.
Eleni, roedd y fforwm ym Mrwsel, Gwlad Belg.
Cafodd un aelod o’r 18 gwlad/rhanbarth cymrodd rhan y prosiect ei ddewis i fynd i Gynhadleddd Blynyddol ENOC ym Melfast.
Gwnaethom nhw cyflwyno gwaith cyfunol ENYA a siarad yn ddyfnach am y materion gyda’r comisiynwyr. Cafodd yr argymhellion polisi datblygodd ENYA eu bwydo i mewn i ddatganiad blynyddol ENOC.
Prosiect Ysgol Gyfun Gwyr
Diolch yn fawr am eich holl waith ar y prosiect:
Alice, Anna, Dafydd, David, Elena, Elin, Grace, Gwen, Harri, India, Matthew, Rhys D, Rhys J, Sophia, Steffan and Tomos.