Blog gwestai Ysgol Birchgrove
Mae ein Llysgenhadon Hawliau wedi gwneud gwaith gwych yn sicrhau bod holl blant ac oedolion ein hysgol yn gwybod am hawliau plant!
Maen nhw wedi bod wrthi’n hybu hawliau plant trwy wasanaethau ysgol, cystadlaethau a thrwy hyrwyddo ‘Hawl y Mis’ ym mhob dosbarth.
Mae ein masgot hawliau arbennig ni, ‘Respectosaurus’, yn ein helpu i gofio am ein hawliau.
Cafodd ei greu’n wreiddiol gan ddisgybl Blwyddyn 1, Adam McKenna, ac ar ôl cael ei weddnewid yn ddiweddar mae’n edrych yn wych!
Eleni fe roddodd e syndod i ni trwy wahodd rhai o’i ffrindiau i ymuno â’r ysgol.
Enwau’r ffrindiau yma yw’r ‘Supersaurs’ ac maen nhw’n ein helpu ni i ddatblygu Parodrwydd i Dyfu trwy fod yn ddyfeisgar, yn gadarn ac yn adfyfyriol.
Yn ystod tymor yr hydref fe fuon ni’n ddigon ffodus i gael dau ymwelydd oedd yn hyrwyddo Hawliau Plant yn yr ysgol.
Mae Birchgrove yn rhan o gynllun di-dâl Llysgenhadon Gwych y Comisiynydd Plant, a phob tymor rydyn ni’n cyflawni tasg arbennig ym maes hawliau.
Bwlio oedd testun tasg arbennig tymor diwetha, ac fe fu Jane Houston, Swyddog Cyfranogiad i Gomisiynydd Plant Cymru, yn hwyluso gweithdy gwrthfwlio a llesiant.
Yn ystod y sesiwn, fe ddysgon ni lawer iawn am fwlio, ac roedden ni’n falch iawn o glywed bod Jane nid yn unig wedi rhoi gwybod i Sally Holland beth oedd ein barn, ond hefyd wedi canmol ein gwaith ar Hawliau.
Roedd hynny’n help hefyd i lywio tasg arbennig y Llysgenhadon Gwych tymor diwetha.
Sally Holland ei hun oedd yr ail ymwelydd! Roedd y plant yn gyffrous dros ben, a dweud y lleia.
Fe fuodd Sally’n cwrdd â’r llysgenhadon i glywed yn uniongyrchol am ein holl waith ar hawliau plant, ac roedden ni wrth ein bodd yn clywed cymaint o argraff roedd hynny wedi’i chael arni hi.
Yn ddiweddarach, aeth Sally ar daith o gwmpas yr ysgol, a mwynhau sgwrsio â’r disgyblion ac edrych ar ein harddangosfeydd Hawliau.
Y tymor yma rydyn ni’n gobeithio helpu ysgolion sydd ar ddechrau eu taith o ran addysg hawliau trwy eu gwahodd i ymweld â ni ac edrych ar yr holl waith rydyn ni wedi’i wneud.
Mae croeso i unrhyw ysgolion sydd â diddordeb mewn cwrdd â Llysgenhadon Hawliau Ysgol Gynradd Birchgrove gysylltu â ni. Rydyn ni hefyd yn awyddus i ddathlu ymhellach trwy gyflawni Dyfarniad Lefel 2 Ysgolion sy’n Parchu Hawliau cyn yr haf.